Gwybodaeth ddefnyddiol
- Parcio:: Hyd at 6 cherbyd
- Ffôn cyhoeddus agosaf: Rhyd Ddu (SH 569 529), 1 milltir
- Cyfleusterau: Dim ar y safle
Rydym wedi cydweithio i greu Prosiect Nos - Partneriaeth Awyr Dywyll Gogledd Cymru - gyda’r nod o greu’r ardal fwyaf o awyr dywyll warchodedig yn y byd! Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, Bryniau Clwyd - Dyffryn Dyfrdwy a Phenrhyn Llŷn.
Rydym yn credu y dylid gwarchod awyr dywyll y nos; dyna pam ein bod yn frwdfrydig dros ennill statws swyddogol gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA).
Dyma rai o’r rhesymau dros warchod yr awyr dywyll...
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.