Yn swil a hudolus – cerddorfa’r machlud a’r wawr yng nghoedwigoedd cyfrin Cymru.
Mae'r troellwr mawr nosol yn un o adar rhyfedd Prydain sy'n treulio ei ddyddiau ar y ddaear, lle mae hefyd yn nythu. Mae’n ymwelydd sy’n dod yn ystod yr haf ac mae ganddo geg lydan sy’n bwyta pryfed ac mae’n cael ei guddliwio â phatrymau brith cywrain o lwyd a brown, ac yn edrych yn union fel darn o bren sydd wedi disgyn ac mae hi bron yn amhosibl sylwi arnynt yn ystod y dydd. Felly, er efallai na fyddwch yn eu gweld yn y rhostiroedd a’r planhigfeydd conwydd ifanc lle maent yn cuddio wrth iddi nosi, y cwbl sy'n newid yw eu galwad iasol y gellir ei glywed yn ystod yr awyr nosol. Mae eu galwad rhyfedd yn cael ei gymharu â sŵn mecanyddol bron fel sŵn injan beic modur yn y pellter. Unwaith iddi dywyllu, gellir gweld yr aderyn siâp hebog od yn nythu ar y ddaear. Mae galwad y gwryw'r un mor rhyfedd â’i arddangosfa afrosgo wrth iddo geisio denu benywod cyfagos, a’i ehediad dolennus wedi ei bweru gan glapiau ei adenydd stiff yn ei ymestyn drwy’r awyr.
Mae pum rhywogaeth o dylluanod yng Nghymru, mae'r dylluan wen, y dylluan fach, y dylluan glustiog a'r dylluan frech yn gyffredin tra bod tylluanod hirglust ddim ond yn bodoli yng Ngogledd Cymru. Maent yn hela dros ystod eang o gynefinoedd o laswelltir agored i goetir trwchus. Maent i gyd yn galw yn y nos, y dylluan frech yw'r dylluan nodweddiadol sy’n adnabyddus ac sy'n ‘hwtian’ i'r rhan fwyaf o bobl tra bo’ rhywogaethau eraill yn tueddu i swnio'n fwy fel sgrechfeydd. Gall tylluanod gael eu clywed mewn nifer o lefydd yng nghefn gwlad, ac o bryd i'w gilydd mewn trefi a phentrefi.
Gall galwadau gan bob rhywogaeth gael eu clywed ar wefan adar yr RSPB ac ar drydar y dydd BBC Radio 4.
he day.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.