Llygredd Golau
Gall gormod o oleuadau, neu oleuadau anaddas effeithio’n ddifrifol ar bobl a’r amgylchedd. Gall olygu:
- Amharu ar batrwm cysgu oherwydd fod golau’n treiddio i mewn i gartrefi
- Amharu ar iechyd meddwl a lles trigolion
- Effeithiau niweidiol ar fywyd gwyllt trwy amharu ar lwybrau mudo ac arferion paru gan arwain at ostyngiad mewn niferoedd
- Biliau ynni uwch a chynyddu allyriant o CO2
Dydi hyn ddim yn golygu ein bod am ichi ddiffodd pob golau! Y cyfan yr ydym yn ei annog yw:
- Newid i fylbiau ynni isel (50w ac is)
- Defnyddiwch oleuadau LED gwyn llai llachar (chwiliwch am 3000 Kelvin neu is na hynny)
- Defnyddiwch oleuadau allanol sy’n ymateb i symudiad (“motion sensors”)
- Gosodwch orchudd dros oleuadau allanol a’u troi at i lawr rhag i’r golau ymledu i’r awyr uwchben
- Diffoddwch unrhyw oleuadau diangen
- Ystyriwch ddefnyddio bylbiau watedd