Mae gan nifer o sefydliadau fentrau sy’n ymwneud ag awyr dywyll:
Y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) yw'r awdurdod byd ar lygredd golau a dyma'r prif sefydliad sy’n brwydro yn erbyn llygredd golau er mwyn amddiffyn awyr y nos ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ei nodau yw:
Mae Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol (a ddynodwyd gan yr IDA) yn dir cyhoeddus neu breifat sydd yn ymestyn o leiaf 700 km². Tiroedd sy'n hygyrch i'r cyhoedd un ai’n rhannol neu'n gyfan gwbl yw'r rhain sy'n cael eu gwarchod yn gyfreithiol at bwrpasau gwyddonol, naturiol, addysgol, diwylliannol, treftadaeth a/neu ddibenion mwynhad y cyhoedd. Rhaid i'r ardal graidd ddarparu awyr dywyll eithriadol o'i gymharu â'r cymunedau a dinasoedd o’i hamgylch, lle mae disgleirdeb awyr y nos yn rheolaidd hafal i, neu'n dywyllach na 20 o feintiau fesul eiliad arc sgwâr (http://darksky.org/idsp/become-a-dark-sky-place/). Mae clustogfeydd yn gymorth i gefnogi cadwraeth awyr dywyll yn y craidd.
Ffurfir gwarchodfeydd drwy bartneriaethau rheolwyr tir sy'n cydnabod gwerth amgylchedd nos naturiol drwy reoleiddio a chynllunio tymor hir. Mae gan Barciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri statws Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol.
Mae Parciau Awyr Dywyll Rhyngwladol yn debyg i Warchodfeydd Awyr Dywyll ond maent yn ardaloedd llai ac yn bennaf yn nwylo un neu ddau o sefydliadau. Enghreifftiau yn y DU yw Ystâd Cwm Elan (Cymru), Coedwig Galloway (Yr Alban), Parc Cenedlaethol Northumberland (Lloegr) a Kielder Water & Forest Park (Lloegr).
Mae Partneriaeth Canfod Awyr Dywyll y DU yn rwydwaith o sefydliadau anllywodraethol (NGOs) amgylcheddol a seryddiaeth cenedlaethol a lleol ynghyd â’r gymuned leol, sy’n anelu at:
Mae Safleoedd Canfod Awyr Dywyll yn rwydwaith cenedlaethol o lefydd sy'n cynnig golygfeydd gwych o awyr y nos sy'n hygyrch i bawb. Fe’u henwebwyd gan grwpiau a sefydliadau lleol a ddynodwyd gan Bartneriaeth Canfod Awyr Dywyll y DU. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer statws Safle Canfod Awyr Dywyll, mae angen i'r lleoliadau ateb nifer o feini prawf sy'n eu gwneud yn ddiogel ac yn hygyrch, yn ogystal â bod ag awyr dywyll addas. Safleoedd Canfod Awyr Dywyll yw llefydd sydd:
Gellir gweld map o Safleoedd Canfod Awyr Dywyll yn: http://www.darkskydiscovery.org.uk/dark-sky-discovery-sites/map.html
Mae’r Comisiwn Awyr Dywyll yn rhan o Gymdeithas Brydeinig Seryddol (BAA) yn sefydliad anllywodraethol (NGO) gydag aelodaeth genedlaethol, sy'n bryderus am y cynnydd cyflym mewn llygredd golau ar draws y DU (http://www.britastro.org/dark-skies/index.php). Mae gan y Comisiwn gannoedd o aelodau o ystod eang o ddisgyblaethau. Ei nodau yw annog;: