Antur Magïod

Dewch o hyd i’r creaduriaid llachar gwych hyn yn cuddio mewn gerddi a gwrychoedd.

Yn rhy aml o lawer, wrth i ni deithio yn ein ceir o un stryd lachar i un arall, rydym yn annhebygol o sylwi ar oleuadau bach hudol magïod yn y gwrychoedd. Fodd bynnag, chwilod yw’r creaduriaid bach hyn mewn gwirionedd, nid mwydod, ac maent yn un o ryfeddodau bach natur. Mae nosweithiau tywyll di-leuad yn ddelfrydol ar gyfer darganfod y creaduriaid bach disglair hyn. Unwaith y bydd yn tywyllu, chwiliwch am y magïod hyn o ddiwedd mis Mai i ddechrau mis Medi, er y byddant fwyaf niferus yng nghanol mis Gorffennaf.

Os ydych yn gweld magïod, edrychwch arnynt ond peidiwch â tharfu arnynt, waeth faint ohonynt sydd ar y safle, a pheidiwch â mynd â nhw adref fel pethau hynod mewn jariau gwydr i ddiddanu'r plant. Mae llawer o sefydliadau gan gynnwys sawl Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cynnal teithiau cerdded magïod neu saffaris ar ôl iddi dywyllu, lle byddwch yn cael y cyfle i gael cip ar y rhyfeddodau bach bioymoleuol hyn.

Yn ôl y chwedl, roedd pobl gynnar yn defnyddio magïod i nodi llwybrau a darparu golau mewn cytiau a seremonïau arbennig. Credid bod gan fagïod bwerau hudol ac yn y gorffennol roeddynt yn cael eu defnyddio yng ngolchdrwythau meddygaeth hynafol. Er gwaethaf yr enw, chwilod benywaidd hŷn yw magïod  (Enw Lladin Lampyris Noctiluca). Maent i’w cael yn eithaf eang ond wedi’u dosbarthu'n lleol yng Nghymru ac yn anffodus mae nifer o boblogaethau yn dirywio. Eu cynefinoedd nodweddiadol yw gerddi, gwrychoedd, clogwyni, llwybrau coetir, twyni tywod, rhostir a hyd yn oed cymoedd yng Nghymru. Mae’r poblogaethau yn amrywio o ran maint o flwyddyn i flwyddyn.

Mae magïod yn dechrau goleuo yn fuan ar ôl iddi nosi cyn gynted ag y mae’n ddigon tywyll ac maent yn parhau ymhell i mewn i'r nos. Fel arfer, ceir magïod ar y ddaear neu weithiau ar goesau blanhigion hyd at tua uchder pen-glin. Mae'r golau yn cael ei gynhyrchu yn abdomen y fenyw heb adenydd i ddenu gwrywod sy’n hedfan i baru gyda hi. Mae'r golau yn fath o fioymoleuedd a achosir pan fydd moleciwl o’r enw luciferin yn cael ei ocsideiddio i gynhyrchu oxyluciferin, gyda’r ensym luciferase yn gweithredu fel catalydd. Dim ond am ychydig o wythnosau mae’r benywod yn byw ac unwaith y maent wedi paru, byddant yn dodwy eu hwyau ac yn fuan yn marw. Yn nodweddiadol, mae'r pryf tân benywaidd yn dodwy rhwng 50 a 100 o wyau mewn ardaloedd llaith, dros gyfnod o ychydig ddyddiau. Mae'r wyau magïod bach yn felyn mewn lliw a gallant gymryd rhwng 3 a 6 wythnos i ddeor; y cynhesaf yn y byd yw, y cyflymaf y bydd wyau’r pryf tân yn deor. Unwaith y bydd yr wyau yn deor i larfau, maent yn parhau fel larfau am 1-2 o hafau. Gall y larfau hefyd fod â golau gwan iawn, am gyfnodau byr.

Er mai anifeiliaid hollysol yw’r magïod maent yn tueddu i fod â diet sy’n seiliedig ar gig. Yn bennaf mae’r magïod yn targedu malwod a gwlithod fel eu hysglyfaeth, ond byddant hefyd yn bwyta pryfed ac infertebratau bach y maent yn eu dal  drwy ddefnyddio llinell ludiog. Oherwydd eu maint bach a'r ffaith eu bod yn goleuo yn y tywyllwch, mae gan bryfed tân nifer o ysglyfaethwyr naturiol, gan gynnwys pryfed cop, pryfed  mawr, adar, ymlusgiaid a nadroedd cantroed. Mae niferoedd magïod yn gostwng ac ystyrir eu bod yn rhywogaeth o anifeiliaid sydd mewn perygl o ddiflannu. Credir mai'r prif reswm am y niferoedd llai yw ehangu gweithgarwch dynol. Gwelir bod magïod yn arbennig o agored i newidiadau yn eu hamgylchedd, gan gynnwys colli cynefinoedd , sŵn a llygredd. Hefyd ceir rhai infertebratau eraill (magïod llai, ychydig o lindys, a nadroedd cantroed) sy’n gallu goleuo, ond mae'r rhain yn llawer prinnach. Ni cheir y math olaf hwn o bryfed tân yn y DU.

Mwy o wybodaeth 

Gellwch ddod o hyd i le mae’n bosibl gweld magïod drwy edrych ar fap ar Rwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol a chwilio am ‘glow worm’, yna defnyddio ‘interactive map’
Mwy o wybodaeth gyffredinol: www.glowworms.org.uk

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.