Ewch yn ôl mewn amser a phrofi gwreichion a sêr, yn union fel y byddai’n hynafiaid wedi ei wneud.
Y ffordd ddiogel orau i fwynhau'r profiad hwn yw trwy fynychu digwyddiad wedi'i drefnu - edrychwch yn y wasg leol am fanylion a / neu'r dudalen blog.
O dan dywyllwch awyr y nos mae rhywbeth hudol ac yn galonogol iawn am fflamau llachar a gwreichion y goelcerth. Cadwch lygad am y digwyddiadau sy'n cynnwys bannau a choelcerthi sy'n goleuo'r nos ac yn eich cysylltu â phobl, llefydd a digwyddiadau arbennig. Gaeaf yn draddodiadol yw'r adeg o'r flwyddyn ar gyfer coelcerthi gyda Guto Ffowc, Calan Gaeaf a'r Flwyddyn Newydd yn ddigwyddiadau cyfarwydd iawn. Ar noson o haf be’ well na threulio amser o gwmpas coelcerth - yn syllu ar y sêr, rhannu storïau a mwynhau siocled poeth?
Gall goleuo coelcerthi fod yn beryglus ac yn aml mae angen gofyn am ganiatàd arbennig, ac mae angen cymryd gofal arbennig er mwyn sicrhau nad yw'r tanau yn achosi niwed i'r tirlun nac i fywyd gwyllt.
Fel mae'r fflamau yn crynu ac wrth i'r marwor glindarddach, felly hefyd mae ein dychymyg yn dod yn fyw. Mae oren tanbaid y tân a chysgodion y tywyllwch yn datgelu llefydd newydd a llefydd angof yn ein calonnau. O dan sglein y sêr ac yng ngoleuni'r lleuad arian gwnewch amser i ganu cân, adrodd stori neu ddwy a mwynhau hud un o ymdrechion mwyaf parhaol ac unigryw dynoliaeth - meistroli grym y fflam.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.