Gydag awyr iachusol y nos a heddwch y tywyllwch, mae rhedeg llwybrau yn y nos yn rhoi dimensiwn cwbl newydd ac unigryw i’r profiad.
Gall rhedeg trwy'r coed, neu i fyny mynydd neu ar hyd y traeth yn ystod y nos fod yn gyffrous a rhoi ymdeimlad o lonyddwch a thawelwch i chi ar yr un pryd. Mae rhywbeth cyntefig am redeg yn y nos drwy wylltineb tywyll natur a byw i ddweud yr hanes. Un o'r pethau allweddol yr ydych yn gorfod ei wneud yw bod yn ddewr, mae popeth yn fwy yn y tywyllwch gan fod cysgodion sy'n cael eu creu gan eich fflachlamp pen yn gwneud teigrod o foncyffion coed ac mae aer llonydd awyr y nos yn troi gwynt i mewn i fleiddiaid yn udo. Tra byddwch yn rhedeg byddwch yn dysgu sut i gydbwyso eich synhwyrau sydd wedi eu mireinio gyda goleuni tywyllach eich dychymyg. Byddwch yn ymwybodol o'r hyn sydd o’ch cwmpas. Peidiwch â gor- gynhyrfu a chadwch reolaeth ar bethau.
Cyn i chi gychwyn, ystyriwch yn ofalus a yw’r man lle’r ydych yn bwriadu rhedeg y lle cywir i redeg. Os yw'r llwybr yn serth, yn gul, yn agos at ddigyniad sydyn neu ar ymyl clogwyn, dydy o ddim yn lle da i fod yn rhedeg, heb sôn am redeg yn ystod y nos.
Er bod y tywyllwch yn rhan o'r wefr, mae'n bwysig i chi allu cael eich gweld gan ddefnyddwyr eraill y llwybr a all fod yn ei ddefnyddio yn ogystal â gallu gweld ble rydych chi'n mynd. Mae fflachlamp pen yn well na fflachlamp llaw oherwydd mae’n golygu eich bod yn cadw eich dwylo yn rhydd i redeg yn gytbwys ac yn llyfn, ond hefyd maent yn cadw eich dwylo yn rhydd ar gyfer estyn mapiau a lluniaeth. Gall fod yn hawdd mynd ar goll yn y tywyllwch yn enwedig gan fod y tywyllwch yn gwneud i dirnodau fod yn amhosibl i'w gweld, felly defnyddiwch eich clustiau a gadawech i synau'r nos eich tywys - ar fap, gall ffrwd mewn dyffryn fod yn amhosibl i'w gweld, ond bydd eich clustiau yn eich galluogi i glywed ei sŵn.
Mae popeth yn edrych yn wahanol yn y nos ac yn silwetau iasol y dirwedd. Mae'n hawdd drysu a mynd ar goll yn y tywyllwch. Cadwch at lwybr yr ydych yn ei adnabod yn iawn, neu un sydd wedi cael ei farcio'n glir, hyd yn oed yn y tywyllwch. Mae mynd ar goll yng nghefn gwlad yn ystod y nos yn golygu efallai y byddwch yn rhedeg yn llawer pellach na beth oeddech chi wedi'i fwriadu ac felly fe allwch fod wedi blino, yn teimlo’n oer, yn llwglyd ac o ganlyniad i hynny yn fwy tebygol o wneud camgymeriadau pellach. Gall mynd ar goll hefyd effeithio ar bobl eraill a allai fynd i chwilio amdanoch os nad ydych yn dychwelyd ar amser neu hyd yn oed yn galw'r gwasanaethau brys. Felly ewch i weld ac archwilio llwybrau newydd yn ystod y dydd a rhedwch y llwybrau hynny yr ydych yn eu hadnabod yn ystod y nos! Neu ewch i redeg gyda grŵp neu bartner sy'n adnabod y llwybr yn dda. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth rywun pryd a ble rydych yn mynd i redeg yn y nos, a dywedwch wrthynt pan fyddwch yn dychwelyd felly pe byddai rhywbeth yn digwydd fe fyddant yn ymwybodol ac yn gwybod fod angen seinio’r larwm.
Mae bod yn oer yn beth ofnadwy, ac mae tymheredd yn disgyn yn gyflym iawn yn y nos. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwisgo haenau priodol o ddillad ac ewch â chôt law ysgafn – fydd nid yn unig yn ddefnyddiol i'ch cadw'n sych ond hefyd yn cadw'r gwynt allan a gwres eich corff i mewn os bydd angen. Edrychwch ar ragolygon y tywydd cyn i chi fynd, a chofiwch y gall y tywydd newid yn sydyn iawn yn arbennig mewn mannau uchel. Gall niwl ymlusgo'n gyflym i awyr y nos a gall leihau gwelededd a’ch drysu yn ogystal â’ch oeri a sugno eich ynni.
Mae golau o un ffynhonnell yn creu cysgodion, felly efallai bydd siapiau a all fod yn gyfarwydd yn ystod y dydd yn troi'n ddirgelwch yn y tywyllwch. Gall tyllau, gwreiddiau coed a grisiau ar y llwybr gael eu cuddio, a gall arwynebau fod yn gamarweiniol. Er mwyn osgoi baglu ar dir garw, codwch eich traed ychydig yn uwch nag arfer. Wrth redeg efallai y byddwch yn dod ar draws newidiadau yn y dirwedd yn gyflym, byddwch yn ymwybodol o dir yn gostwng yn sydyn, ac unrhyw newidiadau i'r llwybr dan draed sy'n ei wneud yn llithrig neu yn anwastad. Rydych yn fwy tebygol o faglu dros wreiddyn bychan yn hytrach na boncyff enfawr, felly arafwch a gwerthfawrogwch y profiad yn hytrach na cheisio torri unrhyw oreuon personol!
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.