Awyr Dywyll Rhagfyr

26.11.21

3ydd: Cyswllt y Lleuad a Mawrth (ffigwr 1). Yn weledol am 06:25 (Amser Safonol Greenwich) yn y De Ddwyrain, cyn pylu o’r golwg am 07:40. Bydd y Lleuad 358260km o’r Ddaear a bydd Mawrth 370.5 miliwn km o’r ddaear. Yn weledol i’r llygad noeth neu gydag ysbienddrych. Bydd y ddau yng nghytser y Fantol (ffigwr 2).


Ffigwr 1


Ffigwr 2


5ed/6ed: Uchafbwynt  (Phi) cawod sêr Dôn (Andromedids) (ffigwr 3/4) yn weithredol o’r 1af hyd yr 8fed gyda’r arddangosfeydd gorau tua 21:00. Bydd cyfle o weld 3 meteor yr awr yng nghytser Andromeda.




Ffigwr 3.



Ffigwr 4.


7fed: Cyswllt y Lleuad a Fenws, byddant hefyd yn gwneud dynesiad agos (ffigwr 5). Yn weledol am 16:35 (Amser Safonol Greenwich) uwch y De Orllewin. Cytser y Saethydd (ffigwr 6). Yn weledol i’r llygad noeth neu drwy ysbienddrych. Bydd y Lleuad 365120 km o’r Ddaear a bydd Fenws 27.7 miliwn km o’r Ddaear.



Ffigwr 5.



Ffigwr 6.


8fed: Cyswllt a dynesiad agos y Lleuad a Sadwrn (ffigwr 7). Yn weledol am 16:35 (Amser Safonol Greenwich) uwch y gorwel i’r De. Machlud am 20:20. Y ddau yng nghytser yr Afr (ffigwr 8). Bydd y Lleuad 370267 km o’r Ddaear a bydd Sadwrn 1569 miliwn km o’r Ddaear.


Ffigwr 7.


Ffigwr 8.


8fed: Cawod sêr Monocerotid (ffigwr 9). Yn weithredol o’r 27ain o Dachwedd hyd yr 17eg o Ragfyr, gyda’r uchafbwynt ar yr 8fed/9fed. Cytser Monoceros (ffigwr 10). Yn weledol o 19:00 hyd 07:30 gyda’r pwynt pelydrol uwch y gorwel i’r Dwyrain. Corff cychwynnol, planed fechan 2004 TG10. Bydd posibilrwydd o 2-3 o gawod sêr bob awr.


Ffigwr 9.


Ffigwr 10.


9fed: Cyswllt a dynesiad agos y Lleuad ac Iau (ffigwr 11). Yn weledol am 16:35 (Amser Safonol Greenwich) uwch y gorwel i’r De. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 17:00. Yn weledol hyd 20:50. Cytser yr Afr (ffigwr 8). Yn weledol i’r llygad noeth neu drwy ysbienddrych. Bydd y Lleuad 376140 km o’r Ddaear a bydd Iau yn bellter o 788 miliwn km.


Ffigwr 11.

12fed: (sigma) uchafbwynt cawod sêr y Ddyrfsarff, Bydd yn dechrau ar y 3ydd ac yn gorffen ar y 15fed. Cytser y Ddyfrsarff (ffigwr 12/13). Yn weledol am 21:05 bob nos uwch y gorwel i’r Dwyrain. Yn weithredol hyd 07:30 gan gynhyrchu’r arddangosfeydd gorau am 03:00 gyda thua 3 meteor yr awr.



Ffigwr 12.



Ffigwr 13.

14eg: Uchafbwynt cawod sêr yr Efeilliaid (ffigwr 14). Bydd yn weithredol o’r 7fed hyd yr 17eg. Cytser yr Efeilliaid (ffigwr 15). Yn weithredol drwy’r tywyllwch. Bydd yr arddangosfeydd gorau am 02:00, a bydd posib gweld hyd at 120 meteor yr awr. Corff cychwynnol, planed fechan 03200 Phaethon.


Ffigwr 14.



Ffigwr 15.

16eg: Uchafbwynt cawod sêr Comae Berenicid (ffigwr 16). Yn weithredol o’r 12fed hyd yr 23ain ac yn weledol bob nos uwch y gorwel i’r Dwyrain. Yn weithredol hyd 07:35. Posibilrwydd o weld 3 meteor yr awr. Cytser y Llew (ffigwr 17).



Ffigwr 16.



Ffigwr 17.

19eg/20fed: Uchafbwynt cawod sêr y Llew Bach (ffigwr 18). Yn weithredol o’r 5ed o Ragfyr hyd y 4ydd o Chwefror yng nghytser y Llew Bach (ffigwr 19). Bydd yn cynhyrchu 5 meteor yr awr ac yn weledol o 19:55 hyd 07:40 bob nos. Bydd yr arddangosfeydd gorau am 05:00 (Amser Safonol Greenwich)


Ffigwr 18.



Ffigwr 19.

21ain: Heuldro Rhagfyr (ffigyrau 20/21). Diwrnod byrraf 2021 yn hemisffer y Gogledd, diwrnod canol gaeaf.


Ffigwr 20.


Ffigwr 21.

22ain/23ain: Uchafbwynt cawod Sêr yr Arth (ffigwr 22). Yn weithredol o’r 17eg hyd y 26ain yng nghytser yr Arth Fach (ffigwr 23). Bydd yn cynhyrchu 10 – 50 o feteorau yr awr ac yn weithredol drwy’r nos. Corff cychwynnol yw’r gomed 8P/Tuttle.



Ffigwr 22.



Ffigwr 23.

27ain: Chwarter olaf y Lleuad (ffigwr 24). Yn weledol o 01:05 yn y Dwyrain a bydd yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 06:20 yn y De cyn diflannu am 07:58. Yn ymddangos oddeutu hanner oleuedig, bydd 375938 km o’r Ddaear.




Ffigwr 24.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro. Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi


Physicist
Nuclear Fusion Physics
Astrophysics

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.