#AchubYrAwyr

Llygredd Golau

Gall gormod o oleuadau, neu oleuadau anaddas effeithio’n ddifrifol ar bobl a’r amgylchedd. Gall olygu:

  • Amharu ar batrwm cysgu oherwydd fod golau’n treiddio i mewn i gartrefi
  • Amharu ar iechyd meddwl a lles trigolion
  • Effeithiau niweidiol ar fywyd gwyllt trwy amharu ar lwybrau mudo ac arferion paru gan arwain at ostyngiad mewn niferoedd
  • Biliau ynni uwch a chynyddu allyriant o CO2

Dydi hyn ddim yn golygu ein bod am ichi ddiffodd pob golau! Y cyfan yr ydym yn ei annog yw:

  • Newid i fylbiau ynni isel (50w ac is)
  • Defnyddiwch oleuadau LED gwyn llai llachar (chwiliwch am 3000 Kelvin neu is na hynny) 
  • Defnyddiwch oleuadau allanol sy’n ymateb i symudiad (“motion sensors”)
  • Gosodwch orchudd dros oleuadau allanol a’u troi at i lawr rhag i’r golau ymledu i’r awyr uwchben
  • Diffoddwch unrhyw oleuadau diangen
  • Ystyriwch ddefnyddio bylbiau watedd