Bannau Brycheiniog

Bannau Brycheiniog Trosolwg

  • Bannau Brycheiniog Trosolwg

  • Cwmpas: Ar draws De a Chanolbarth Cymru
  • Maint: 520 milltir sgwâr
  • Pwynt Uchaf: Pen y Fan 886m
  • Prif Safleoedd i Syllu ar y Sêr: Safle Canfod Awyr Dywyll Cronfa Ddŵr Wysg
  • Adeg gorau i syllu ar y sêr: Medi - Mawrth

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin, ac o Gymoedd y De i Ganolbarth Cymru, mae’r dirwedd hardd ac amrywiol hon yn cynnig llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU. Ar noson glir, gallwch brofi mawredd y Llwybr Llaethog wrth iddo greu bwa dros awyr y nos a hefyd gweld hyd at 3000 - mae hynny'n 2800 yn fwy na rhan fwyaf o ardaloedd y DU! 

Dros y tair blynedd diwethaf ar ôl ennill y dynodiad mawreddog hwn, bu Bannau Brycheiniog yn gweithio'n galed gyda busnesau, trigolion lleol ac ymwelwyr i leihau llygredd golau a gwneud yr awyr hyd yn oed yn fwy arbennig nag o'r blaen. Mae’r warchodfa yn cynnig mynediad rhwydd, amrywiaeth wych o dirweddau, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt, gan wneud Bannau Brycheiniog yn lle perffaith i ddianc o fwrlwm y byd a phrofi gwir heddwch a llonyddwch.

Safleoedd Gorau i Syllu ar y Se

Eisiau gwneud y gorau o awyr dywyll anhygoel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Dyma rai o’r llefydd gorau i weld y sêr.Want to make the most of The Brecon Beacons’ amazing dark skies? Here are some of the best places to see the stars.

Mae'r maes parcio yng Nghronfa Ddŵr Wysg yn lle prydferth i gael picnic teuluol yn ogystal â lle delfrydol i fwynhau awyr dywyll ragorol. Mae’r arwynebedd wastad fawr yn caniatáu gosod telesgopau ac mae'r mynediad ffordd o Drecastell yn golygu ei fod yn hawdd ei gyrraedd. Mae'r ardal hon yn mwynhau maint cyfyngu llygad noeth o 6.4 a chaiff ei diogelu rhag lygredd golau o gymoedd De Cymru.
Parcio: Hyd at 10 cerbyd.
Ffôn gyhoeddus agosaf: Pont ar Hyder (2 filltir)
Cyfleusterau: Dim.
Nid yw'r gronfa mor hygyrch â Chronfa Ddŵr Wysg, ond mae taith fer i lawr lôn fynediad yn caniatáu gosod telesgopau i fwynhau syllu ar y sêr i lawr i faint cyfyngu o 6.37. Hefyd mae cilfannau ar hyd yr A4607 sy'n darparu llefydd delfrydol i fwynhau harddwch yr awyr dywyll.
Parcio: Hyd at 6 cherbyd.
Ffôn gyhoeddus agosaf: Glyntawe (4 milltir)
Cyfleusterau: Dim.
Yn un o’r adeiladau adfeiliedig harddaf yng ngofal CADW, mae gan Briordy Llanddewi Nant Hodni awyr berffaith glir ac mae wedi'i leoli ar hyd Llwybr Clawdd Offa sydd union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gydag awyr sydd â maint cyfyngu o 6.35. Mae'r priordy yn un o'r ardaloedd mwyaf swynol ar gyfer arsylwi yng Nghymru.
Parcio: Hyd at 30 o gerbydau.
Ffôn cyhoeddus agosaf: Y brif ffordd, Llanddewi Nant Hodni (1/4 milltir).
Cyfleusterau: Gwesty Llanthony Priory (oriau agor yn amrywio), Toiledau.
Mae'r ffordd dros Fwlch yr Efengyl o Landdewi Nant Hodni i'r Gelli Gandryll yn dod â chi i'r maes parcio ym Mhenybegwn, sef bryn sy’n edrych dros ddyffryn Gwy gyda golygfeydd gwych dros Bowys a Swydd Amwythig i'r gogledd-orllewin pell. Yma ceir awyr â maint cyfyngu o 6.34. Tref Y Gelli yw'r ganolfan fwyaf o siopau llyfrau ail law tu allan i Lundain, gan wneud hwn yn lle da i chwilio am deitlau’n ymwneud â seryddiaeth.
Parcio: Hyd at 10 cerbyd.
Ffôn gyhoeddus agosaf: Gelli Gandryll neu Gapel y Ffin (4 milltir)
Cyfleusterau: Dim.
Mae arwyddion i’r ganolfan ymwelwyr hon ym mhentref Libanus ar y brif ffordd A470 ac mae’n hygyrch iawn yn ystod y dydd a'r nos. Yn mwynhau awyr gyda maint cyfyngu o 6.37, mae'r ganolfan yn un o'r ardaloedd gorau a mwyaf hygyrch i osod telesgopau ac mae o fewn taith awr o bob un o gymoedd de Cymru. Mae'r ganolfan wedi ei lleoli ar dir comin prysur, felly gofynnwn i chi barchu trigolion lleol a pharcio ym maes parcio’r ganolfan a dim ond defnyddio ein tir yn ystod y nos er mwyn lleihau tarfu ar bobl eraill.
Parcio: Hyd at 60 o gerbydau.
Ffôn gyhoeddus agosaf: Libanus (1 filltir)
Cyfleusterau: Canolfan ymwelwyr, Toiledau ac ystafelloedd te.
Mae'r maes parcio oddi ar y ffordd droellog rhwng Llandeilo a Brynaman dros y Mynydd Du yn lleoliad gwych gan fod mynediad da o Gwm Tawe a digon o le ar gyfer telesgopau. Mae hefyd yn edrych dros dywyllwch Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda’r awyr yma yn mwynhau maint cyfyngu o 6.31.
Parcio: Hyd at 10 cerbyd.
Ffôn gyhoeddus agosaf: Rhosaman (5 milltir).
Cyfleusterau: Dim.
Mae'r castell gwych yng Ngharreg Cennen yn sefyll ar ei glogwyn calchfaen enfawr yn ddiwrnod allan gwych gyda golygfeydd syfrdanol ar draws y dyffryn i'r gorllewin ac ymhlith yr awyr dywyllaf yn y rhanbarth, ar faint cyfyngu o 6.26. Mae'n hygyrch o Landeilo, Caerfyrddin a Rhydaman ac mae o fewn taith awr o gymoedd De Cymru a pherfeddwlad wledig Gorllewin Cymru.
Parcio: Hyd at 30 o gerbydau.
Ffôn cyhoeddus agosaf: Trap (1 filltir).
Cyfleusterau: Canolfan ymwelwyr, toiledau a chastell.
Mae castell Craig-y-Nos yn cyn gartref i’r gantores opera Adelina Patti, un o’r sopranos gorau mewn hanes. Mae'r awyr yma â maint cyfyngu o 6.30 ac yn hygyrch iawn ar y ffordd o Abertawe ac Aberhonddu.
Parcio: Hyd at 60 o gerbydau.
Ffôn gyhoeddus agosaf: Glyntawe (1 filltir).
Cyfleusterau: Caffi, Canolfan Geoparc, Parc Gwledig.
Mae'r bryn sy’n ganolbwynt i’r nenlinell o'r Fenni yn hygyrch oddi ar brif ffordd yr A40. Y maint cyfyngu yma yw 6.10 a byddwch yn mwynhau golygfa eang dros y de a'r gorllewin gan osgoi llawer o lygredd golau'r trefi i'r de.
Parcio: Hyd at 25 o gerbydau.
Ffôn gyhoeddus agosaf: Fferm Pysgodlyn (1 ½ milltir).
Yn hygyrch iawn o gymoedd De Cymru a Chanolbarth Lloegr ar hyd ffordd yr A40, mae gan Lyn Syfaddan ddigonedd o lefydd i osod telesgopau. Mae'n rhannu lleoliad gyda chanolfan gweithgareddau awyr agored, sydd â rhywfaint o oleuni crwydr, ond gyda maint cyfyngu o 6.24, gobeithio nad yw’n ymyrryd yn fawr â’r man prydferth hwn.
Parcio: Hyd at 60 o gerbydau.
Ffôn gyhoeddus agosaf: Ar y safle.
Cyfleusterau: Caffi, Bwyty, Llogi Cwch.

Gweithgareddau Awyr Dywyll

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Astroffotograffiaeth

Gwisgwch eich côt, estynnwch eich camera a mentrwch i fyd cyffrous ffotograffiaeth yn y nos.

Seryddiaeth

Mae awyr dywyll anhygoel y Parciau Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd gwych drwy gydol y flwyddyn i wylio awyr y nos, i syllu ar y sêr, planedau a'r lleuad.

Nosweithiau Sêr Gwib a Chomedau

Ar noson glir, syllwch i fyny ar yr awyr yn ddigon hir a byddwch yn gweld sêr gwib ac efallai hyd yn oed, yn sylwi ar gomed.

Gwylio’r Wawr a’r Machlud

Mae awyr lân a thirweddau mawreddog Cymru yn lle perffaith i edrych ar liwiau coch ac oren hardd y wawr neu fachlud haul.

Gwersylla Dan y Sêr

Dewch o hyd i wersyllfa sy’n cuddio yng nghefn gwlad ymhell oddi wrth oleuadau llachar y ddinas, a chofleidiwch ryfeddod y tywyllwch.

Gwylio Moch Daear

Profwch olygfa anhygoel o foch daear yn dod allan yn y gwyll o’u brochfa, i chwilota am fwyd a chwarae yng ngolau'r lleuad.

Teithiau Cerdded Ystlumod

Gwrandewch am wichiadau’r unig famal sy’n wirioneddol hedfan, a gwyliwch eu dawnsfeydd acrobatig yn awyr y nos.

Adar y Nos

Yn swil a hudolus – cerddorfa’r machlud a’r wawr yng nghoedwigoedd cyfrin Cymru.

Antur Magïod

Dewch o hyd i’r creaduriaid llachar gwych hyn yn cuddio mewn gerddi a gwrychoedd.

Beicio Mynydd

Gadewch i’r nos fod yn antur newydd yn y tywyllwch, gyda thraciau a llwybrau yn cynnig her newydd i chi tra bo’r lleuad yn gwenu arnoch.

Teithiau Cerdded Gyda’r Hwyr ac yn y Nos

Dowch i gael eich temtio i’r tywyllwch gan belydrau’r lleuad a golau sêr, gwisgwch eich côt a mentro i’r cyfnos.

Rhedeg Llwybrau

Gydag awyr iachusol y nos a heddwch y tywyllwch, mae rhedeg llwybrau yn y nos yn rhoi dimensiwn cwbl newydd ac unigryw i’r profiad.

Teithiau Trên

Ar y trên yn y nos – dyma lle mae’r storïau yn dechrau.

Goleufeydd a Choelcerthi

Ewch yn ôl mewn amser a phrofi gwreichion a sêr, yn union fel y byddai’n hynafiaid wedi ei wneud.

Gwarchodfa Awyr Dywyll

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Snowdonia

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Darllen Mwy
Pembrokeshire

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Darllen Mwy