Cyngor Diogelwch

Ymwybyddiaeth o’r Nos

Mae mwynhau'r awyr agored yn hwyl ac yn gyffrous, ond, bydd tywyllwch yn dod â heriau newydd nad ydych wedi'u hwynebu yn ystod y dydd. Dechrau da yw hanner y gwaith! Er mwyn mwynhau’r antur i'r eithaf, cymerwch eich amser i ddarllen y canlynol ac ystyriwch pa gynllunio sydd ei angen er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel wrth wneud yr antur neu'r gweithgaredd. Mae'r cyngor diogelwch yn berthnasol i bob antur neu weithgaredd pan fyddwch yn y tywyllwch yn yr awyr agored ac yn agored i'r elfennau, ond cymerwch ofal ychwanegol os ydych ar glogwyni, arfordir, mynyddoedd neu fryniau.

Cynlluniwch eich llwybr yn ofalus cyn cychwyn

Nodwch pa rannau o'r llwybr sy’n syrthio’n sydyn neu sy’n serth neu'n agored. Dewiswch lwybr sy'n addas ar gyfer lefel ffitrwydd pawb yn eich grŵp. Os ar fynydd neu fryn, gan gyrhaeddwch chi’r copa, cofiwch mai ond hanner ffordd yr ydych chi, felly byddwch yn wyliadwrus wrth i chi gerdded i lawr y mynydd. Gall blinder eich taro gan gynyddu’r perygl o lithro, baglu a syrthio. Os ydych yn flinedig, cymerwch egwyl, cynheswch a mynnwch rywbeth i’w yfed a’i fwyta.

Cadwch at y llwybr a gynlluniwyd gennych ar bob adeg

Os gwelwch eraill o’ch blaen, peidiwch â chael eich temtio i'w dilyn – mae’n bosib eu bod nhw’n cymryd llwybr llawer mwy heriol a pheryglus na chi.

Gwisgwch esgidiau cerdded sy’n gwarchod eich ffêr ac yn gyfforddus, ynghyd â dillad addas

Nid yw ‘trainers’ na sandalau yn addas ar gyfer cerdded mynyddoedd, neu ar gyfer cerdded ar lwybrau anwastad.

Byddwch yn barod ar gyfer tywydd anwadal

Ewch â throwsus a siaced sy’n atal dŵr a gwynt. Mewn tywydd gaeafol bydd angen i chi gymryd dillad ychwanegol fel haen thermal yn sylfaen, siaced gnu, menig a het. Hyd yn oed yn yr haf, ewch â het a menig a dillad y gallwch eu gwisgo mewn haenau oherwydd bydd yn oeri gyda’r nos. Gall eich traed oeri’n ofnadwy, felly gwisgwch sanau trwchus. Os ydych allan ar y ffyrdd, gwisgwch siaced gwelededd uchel. Ystyriwch fynd â ffon gerdded neu ddwy i'ch helpu gyda’ch cydbwysedd ar arwynebau anwastad neu lithrig.

Cariwch sach gefn gan gynnwys digon o fwyd a diod

Mae'n bwysig cynnal eich lefelau egni oherwydd gall cerdded fod yn waith caled a gall blinder a lludded yn y tywyllwch gynyddu’r perygl o fynd ar goll, neu ddamwain.

Ewch â map a chwmpawd gyda chi a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i'w defnyddio

Maent yn ddarn hanfodol o git. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio haen ychwanegol o ddillad oherwydd gall tymheredd ddisgyn pan fyddwch yn uchel yn y copaon ac ar yr arfordir. Mae'n hanfodol i gario fflachlamp, chwiban, pecyn cymorth cyntaf a ffôn symudol, ond cofiwch – does dim sicrwydd y cewch chi signal mewn mannau anghysbell, felly peidiwch â dibynnu ar eich ffôn os ydych yn mynd i drafferthion.

Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn cychwyn

Os yw'r tywydd yn gwaethygu, trowch yn ôl. Gall amodau yn ystod y nos, yn enwedig ar fynyddoedd newid yn gyflym wrth i wyntoedd ffyrnig, cymylau isel a thymheredd rhewi ei gwneud hi’n amhosib gweld a cherdded.

Gall tywydd yn ystod y nos newid yn sydyn, a gall y tymheredd ddisgyn yn enwedig ar nosweithiau sy’n ddelfrydol ar gyfer syllu ar y sêr pan nad oes fawr neu ddim cymylau. Bydd peryglon a achosir gan wlith, glaw neu rew ar wyneb oer, gwlyb a llithrig waethygu yn y tywyllwch, gan gynyddu'r tebygolrwydd o faglu, cam gyfri pellteroedd a gall hi fod yn anos i weithio gydag offer.

Mae o fudd i chi gael gwybod beth yw rhagolygon y tywydd cyn mentro allan. Gallai newid yn y tywydd ddifetha eich cynlluniau a gallai hefyd fod yn beryglus iawn. Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhedeg gwasanaeth 24 awr o ragolygon tywydd ar-lein sy'n rhoi manylion diweddaraf amodau dan draed, gwelededd, cyflymder y gwynt, cyfeiriad y gwynt a thymheredd ledled y DU: www.metoffice.gov.uk/public/weather/forecast a gallwch ddod o hyd i ragolwg penodol ar fynyddoedd yma: www.metoffice.gov.uk/public/weather/mountain-forecasts/#?tab=MountainHome.

Dywedwch wrth rywun dibynadwy am eich cynlluniau

Gan gynnwys pa lwybr rydych yn ei gymryd a phryd rydych yn disgwyl dychwelyd, fel y gallant seinio rhybudd os na fyddwch yn ôl mewn pryd. Cofiwch roi gwybod iddyn nhw os bydd eich cynlluniau'n newid o gwbl.

Gwirio Amseroedd y Llanw

Os ydych yn mynd ar antur at y môr neu aber afon, cofiwch wirio amseroedd y llanw. Gall fod yn hawdd camfarnu pellteroedd yn y tywyllwch, a gall llanw ddod i mewn yn gyflym. Ceir mwy o wybodaeth o www.bbc.co.uk/weather/coast_and_sea/tide_tables/11/496#tide-details a gwybodaeth arbenigol ar dywydd ar y mynydd yn www.bbc.co.uk/weather/coast_and_sea/tide_tables/11/496#tide-details.

Mewn argyfwng

Tân, yr Heddlu, Ambiwlans, Gwylwyr y Glannau, Achub Mynydd: Ffoniwch 999 a gofyn am y gwasanaeth priodol.