Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Wythnos Awyr Dywyll Cymru Trosolwg

  • Wythnos Awyr Dywyll Cymru Trosolwg

  • Cwmpas: Cymru
  • Maint: 2,083 sq/m
  • Pwynt Uchaf: Yr Wyddfa
  • Prif Safleoedd i Syllu ar y Sêr: Gormod i'w rhestru!
  • Adeg gorau i syllu ar y sêr: Medi-Mawrth

Croeso i'n ail Wythnos Awyr Dywyll Cymru! - (Chwefror 17-26, 2023)

Da ni yn falch o weithio gyda pob un o’r tirweddau dynodedig yng Nghymru er mwyn cyflwyno nifer o ddigwyddidau byw ac ar-lein ar draws y wlad.

Gyda’n gilydd mae pob Parc Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o lygredd golau a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn gweld y sêr ond hefyd ar ein iechyd ac ar fywyd gwyllt.

Byddwn ni wrth ein boddau petawch yn ymuno â ni ar ein taith o gwmpas tirweddau dynodedig Cymru er mwyn gweld y gwaith sy’n mynd ymlaen i warchod ein Awyr Dywyll a sut allwch chi helpu.

Dyddiad

Amser

Tirwedd Dyndodedig

Ble

Pris

Digwyddiad

Dolen Archebu

Gwe 9fed

17:00-19:00

Eryri

Cwm Idwal

Am Ddim

Taith Gerdded Awyr Dywyll

E-bostio Dani.robertson@eryri.llyw.cymru

Sad 10fed

18:00-20:30

AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Llaferres

£27.50

Padlfyrddio a Gweld Sêr

www.suplass.com

Llun 12fed18:30-19:30EryriAr-Lein

Am Ddim

Astroarchaeoleg – Archaeoleg a'r Sêr, Clive Ruggles

E-bostio Dani.robertson@eryri.llyw.cymru

Maw 13eg

17:30-21:30

Eryri

Cwm Eigiau

Am Ddim

Awyr Dywyll a Taith Archaeoleg

Wedi Gwerthu Allan!

Maw 13eg

10:00-16:00

AHNE Gŵyr

Amgueddfa Waterfront Abertawe

-

AstroCymru - Adeiladu rocedi a gweithdai celf y gofod.

E-bostio -  Jake.Cosgrove@swansea.gov.uk

Mer 14eg

17:30-21:30

Eryri (ar y cyd gyda Partneriaeth Carneddau)

Abergwyngregyn

Am Ddim

Awyr Dywyll a Taith Archaeoleg

Wedi Gwerthu Allan!

Mer 14eg

17:30-21:30Arfordir PenfroCastell Henllys£8Rhyfeddodau ein Awyr Dywyll – Digwyddiad adrodd straeon 

Gwefan Arfordir Penfro

Mer 14eg

10:00-16:00

AHNE Gŵyr

Yr Oriel Wyddonol

-

Stardust Hunters – Helfa llwch sêr gyda cymorth gan Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe

E-bostio -  Jake.Cosgrove@swansea.gov.uk

Mer 14eg

I'w Gadarnhau

AHNE Gŵyr

I'w Gadarnhau

-

Sesiwn Telesgop Faulkes - Cynorthwyo staff Prifysgol Abertawe i reoli telesgop Faulkes

E-bostio -  Jake.Cosgrove@swansea.gov.uk

Iau 15fed17:15-19:15Ynys Môn AONB

Bryn Celli Du, Brynsiencyn

Am Ddim

Awyr Dywyll Bryn Celli Du gyda Rhys Mwyn

Gwefan Cyngor Sir Fôn

Iau 15fed

18:30-20:00

Bannau Brycheiniog

Ar-Lein

Am Ddim

Sesiwn Seryddiaeth Stellarium gyda Nick Busby

E-bostio Carol.Williams@beacons-npa.gov.uk

Gwe 16eg

18:00-20:30

AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Llaferres

£27.50

Padlfyrddio a Gweld Sêr

www.suplass.com

Gwe 16eg

18:00-20:00

AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Campws Northop

£7.50

XPLORE! Noson seryddol gyda'r Planetariwm

Canolfan Wyddoniaeth Xplore

Sad 17eg

10:00-17:00

AHNE Gŵyr

Neuadd Bentref Port Eynon

-

Sesiwn Planetariwm

E-bostio -  Jake.Cosgrove@swansea.gov.uk

Sad 17eg

18:00-23:00

AHNE Gŵyr

Neuadd Bentref Port Eynon

-

Sesiwn syllu ar y Lleuad

E-bostio -  Jake.Cosgrove@swansea.gov.uk

There are no star gazing sites for this destination page yet.

Gweithgareddau Awyr Dywyll

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Astroffotograffiaeth

Gwisgwch eich côt, estynnwch eich camera a mentrwch i fyd cyffrous ffotograffiaeth yn y nos.

Seryddiaeth

Mae awyr dywyll anhygoel y Parciau Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd gwych drwy gydol y flwyddyn i wylio awyr y nos, i syllu ar y sêr, planedau a'r lleuad.

Nosweithiau Sêr Gwib a Chomedau

Ar noson glir, syllwch i fyny ar yr awyr yn ddigon hir a byddwch yn gweld sêr gwib ac efallai hyd yn oed, yn sylwi ar gomed.

Gwylio’r Wawr a’r Machlud

Mae awyr lân a thirweddau mawreddog Cymru yn lle perffaith i edrych ar liwiau coch ac oren hardd y wawr neu fachlud haul.

Gwersylla Dan y Sêr

Dewch o hyd i wersyllfa sy’n cuddio yng nghefn gwlad ymhell oddi wrth oleuadau llachar y ddinas, a chofleidiwch ryfeddod y tywyllwch.

Gwylio Moch Daear

Profwch olygfa anhygoel o foch daear yn dod allan yn y gwyll o’u brochfa, i chwilota am fwyd a chwarae yng ngolau'r lleuad.

Teithiau Cerdded Ystlumod

Gwrandewch am wichiadau’r unig famal sy’n wirioneddol hedfan, a gwyliwch eu dawnsfeydd acrobatig yn awyr y nos.

Adar y Nos

Yn swil a hudolus – cerddorfa’r machlud a’r wawr yng nghoedwigoedd cyfrin Cymru.

Antur Magïod

Dewch o hyd i’r creaduriaid llachar gwych hyn yn cuddio mewn gerddi a gwrychoedd.

Beicio Mynydd

Gadewch i’r nos fod yn antur newydd yn y tywyllwch, gyda thraciau a llwybrau yn cynnig her newydd i chi tra bo’r lleuad yn gwenu arnoch.

Teithiau Cerdded Gyda’r Hwyr ac yn y Nos

Dowch i gael eich temtio i’r tywyllwch gan belydrau’r lleuad a golau sêr, gwisgwch eich côt a mentro i’r cyfnos.

Rhedeg Llwybrau

Gydag awyr iachusol y nos a heddwch y tywyllwch, mae rhedeg llwybrau yn y nos yn rhoi dimensiwn cwbl newydd ac unigryw i’r profiad.

Teithiau Trên

Ar y trên yn y nos – dyma lle mae’r storïau yn dechrau.

Goleufeydd a Choelcerthi

Ewch yn ôl mewn amser a phrofi gwreichion a sêr, yn union fel y byddai’n hynafiaid wedi ei wneud.

Gwarchodfa Awyr Dywyll

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Snowdonia

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Darllen Mwy
Pembrokeshire

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Darllen Mwy