Eryri

Syllwch ar y sêr ac edmygwch awyr y nos o odre mynyddoedd Eryri

Eryri Trosolwg

  • Eryri Trosolwg

  • Cwmpas: Ar draws gogledd-orllewin a chanolbarth gorllewin Cymru
  • Maint: 2,132 milltir sgwâr
  • Pwynt Uchaf: Yr Wyddfa 1085m
  • Prif Safleoedd i Syllu ar y Sêr: Llyn y Dywarchen
  • Adeg gorau i syllu ar y sêr: Medi i Fawrth

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei ddynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o’r gwarchodfeydd hudol hyn sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Ar ôl cael ei dynodi gyda theitl mor nodedig, mae Eryri bellach yn gobeithio nid yn unig i amddiffyn yr amgylchedd a gwella bioamrywiaeth ac awyr dywyll yr ardal, ond hefyd i ymuno gyda phartneriaid yng Nghymru i fynd gam ymhellach na’r dynodiadau eraill yn y byd a chodi ymwybyddiaeth o'r nodweddion sy'n cysylltu’r sêr o’n diwylliant, o'r Mabinogi i'r hen benillion.

Dim ond newydd ddechrau y mae’r daith o ddarganfod a gwerthfawrogi’r sêr, ac mae Eryri yn dymuno gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol i gynnal ansawdd yr awyr dywyll sydd gennym yn Eryri. Mae digonedd o gyfleoedd i syllu ar y sêr ac edmygu awyr y nos o odre mynyddoedd Eryri...... .. Beth am ddod i brofi'r awyr dywyll drosoch chi eich hun?

Safleoedd Gorau i Syllu ar y Se

Eisiau gwneud y gorau o awyr dywyll anhygoel Parc Cenedlaethol Eryri? Dyma rai o’r llefydd gorau i syllu ar y sêr.

Llyn y Dywarchen

Mae Llyn y Dywarchen uwchlaw pentref Drws y Coed yn Nyffryn Nantlle, ger Rhyd Ddu. Mae’n llyn pysgota poblogaidd iawn, ac mae maes parcio gerllaw.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Hyd at 6 cherbyd
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Rhyd Ddu (SH 569 529), 1 milltir
  • Cyfleusterau: Dim ar y safle

Llyn Geirionnydd

Mae hwn yn llyn poblogaidd iawn yng Nghoedwig Gwydir uwchben Betws y Coed. Yn ystod misoedd yr haf, mae’n boblogaidd gyda phobl sy’n hoffi cael picnic yn ogystal â'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dŵr, gan mai dyma'r unig lyn yn Eryri lle mae cychod pŵer a sgïo dŵr yn cael eu caniatáu. Mae maes parcio ar lan y llyn, a chyfleusterau cyhoeddus ar gael yn ystod yr haf.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn cyhoeddus agosaf: Nant Bwlch yr Haearn (SH 778 593), 2 filltir
Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus, meinciau picnic

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Nant Bwlch yr Haearn (SH 778 593), 2 filltir.
  • Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus, byrddau picnic.

Llynnau Cregennen

Llynnau Cregennen yw dau o'r llynnoedd mwyaf poblogaidd yn ne Sir Feirionnydd. Maent yn gorwedd ar odre Cader Idris, gyda chreigiau uwch eu pen, sef Tyrrau Mawr i'r de-ddwyrain, a Phared y Cefn Hir i'r gogledd. Mae maes parcio a chyfleusterau cyhoeddus ger y llyn mwyaf, a chaniateir pysgota os oes gennych y trwyddedau priodol.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn cyhoeddus agosaf: Arthog (SH 640 143), 2 filltir
Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus ar agor yn ystod y dydd yn unig

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Arthog (SH 640 143), 2 filltir
  • Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus ar agor yn ystod y dydd yn unig.

Tŷ Cipar, y Migneint

Mae Tŷ Cipar rhwng Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan, o fewn Ardal Warchod Arbennig Migneint a'r Arenig Dduallt. Mae'n un o'r ardaloedd mwyaf o orgors yng Nghymru, a gellir gweld adar megis y Boda Tinwyn, Hebog a’r Cudyll Bach yma.
Parcio: Hyd at 4 cerbyd
Ffôn cyhoeddus agosaf: Cwm Penmachno (SH 767 478), 2 filltir
Cyfleusterau: Dim ar y safle

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Hyd at 4 cerbyd
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Cwm Penmachno (SH 767 478), 2 filltir
  • Cyfleusterau: Dim ar y safle

Bwlch y Groes

Mae Bwlch y Groes yn gorwedd ar yr isffordd sy'n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn, ac mae'n un o'r bylchau uchaf yng Nghymru sydd wedi ei darmacio. Mae'r olygfa o'r bwlch yn cwmpasu gwastatir dyffryn Dyfi, Cader Idris a’r Aran Fawddwy, a Mynyddoedd y Berwyn i'r gogledd-ddwyrain.
Parcio: Hyd at 10 cerbyd
Ffôn cyhoeddus agosaf: Llanymawddwy (SH 902 189), 2 filltir
Cyfleusterau: Dim ar y safle

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Hyd at 10 cerbyd
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Llanymawddwy (SH 902 189), 2 filltir
  • Cyfleusterau: Dim ar y safle

Gweithgareddau Awyr Dywyll

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Astroffotograffiaeth

Gwisgwch eich côt, estynnwch eich camera a mentrwch i fyd cyffrous ffotograffiaeth yn y nos.

Seryddiaeth

Mae awyr dywyll anhygoel y Parciau Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd gwych drwy gydol y flwyddyn i wylio awyr y nos, i syllu ar y sêr, planedau a'r lleuad.

Nosweithiau Sêr Gwib a Chomedau

Ar noson glir, syllwch i fyny ar yr awyr yn ddigon hir a byddwch yn gweld sêr gwib ac efallai hyd yn oed, yn sylwi ar gomed.

Gwylio’r Wawr a’r Machlud

Mae awyr lân a thirweddau mawreddog Cymru yn lle perffaith i edrych ar liwiau coch ac oren hardd y wawr neu fachlud haul.

Gwersylla Dan y Sêr

Dewch o hyd i wersyllfa sy’n cuddio yng nghefn gwlad ymhell oddi wrth oleuadau llachar y ddinas, a chofleidiwch ryfeddod y tywyllwch.

Gwylio Moch Daear

Profwch olygfa anhygoel o foch daear yn dod allan yn y gwyll o’u brochfa, i chwilota am fwyd a chwarae yng ngolau'r lleuad.

Teithiau Cerdded Ystlumod

Gwrandewch am wichiadau’r unig famal sy’n wirioneddol hedfan, a gwyliwch eu dawnsfeydd acrobatig yn awyr y nos.

Adar y Nos

Yn swil a hudolus – cerddorfa’r machlud a’r wawr yng nghoedwigoedd cyfrin Cymru.

Antur Magïod

Dewch o hyd i’r creaduriaid llachar gwych hyn yn cuddio mewn gerddi a gwrychoedd.

Beicio Mynydd

Gadewch i’r nos fod yn antur newydd yn y tywyllwch, gyda thraciau a llwybrau yn cynnig her newydd i chi tra bo’r lleuad yn gwenu arnoch.

Teithiau Cerdded Gyda’r Hwyr ac yn y Nos

Dowch i gael eich temtio i’r tywyllwch gan belydrau’r lleuad a golau sêr, gwisgwch eich côt a mentro i’r cyfnos.

Rhedeg Llwybrau

Gydag awyr iachusol y nos a heddwch y tywyllwch, mae rhedeg llwybrau yn y nos yn rhoi dimensiwn cwbl newydd ac unigryw i’r profiad.

Teithiau Trên

Ar y trên yn y nos – dyma lle mae’r storïau yn dechrau.

Goleufeydd a Choelcerthi

Ewch yn ôl mewn amser a phrofi gwreichion a sêr, yn union fel y byddai’n hynafiaid wedi ei wneud.

Gwarchodfa Awyr Dywyll

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Pembrokeshire

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Darllen Mwy
Brecon

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Darllen Mwy