Night Skies - May 2017

01.05.17

Ar ddechrau'r mis, bydd Mercher y blaned sy’n anodd ei gweld yn harddu awyr y Gorllewin. Ar 1 Ebrill, bydd y blaned ar ei phwynt pellaf o'r Haul ac yn machlud tuag awr ar ôl i’r Haul fachlud. Mae hefyd ar ei mwyaf disglair ar y diwrnod hwn, ond yn ystod y 12 diwrnod nesaf, bydd y blaned yn pylu mewn disgleirdeb ac yn gostwng tuag at orwel y gorllewin yn eithaf cyflym, felly mae angen bod yn gyflym i gael cip ar yr ymwelydd cyfnos hwn.

Mae Fenws, oedd i’w gweld yn danbaid yn awyr y de orllewin dros y misoedd diwethaf wedi diflannu o’n hawyr gyda'r nos ni’n llwyr ...i ailymddangos yn isel i lawr yng nghyfnos gwawr y Dwyrain a bydd yn flaenllaw ar awyr gynnar y bore tan bron i ddiwedd y flwyddyn.

Mae’r blaned Mawrth yn dal i fod yn weladwy yn y Gorllewin isel ar ôl i’r haul fachlud, ond mae hi’n araf golli’r  frwydr yn erbyn awyr y cyfnos a bydd yn mynd o'r golwg dros y misoedd nesaf. Eithaf anfoddhaol yw ei gweld hi hyd yn oed mewn telesgop gan fod y pellter Daear-Mawrth yn cynyddu'n gyflym.  Mae canol y flwyddyn nesaf yn addo bod yn llawer gwell i weld y blaned Mawrth, ond bydd hynny yn ystod  "misoedd ddim yn dywyll iawn" Mehefin a Gorffennaf, felly bydd rhaid i chi aros i fyny’n hwyr iawn i edrych ar y blaned.

Mae’r blaned Iau ar y llaw arall, yn weladwy drwy gydol yr oriau tywyll ar hyn o bryd. Mae’r lloerennau a’r gwregysau cwmwl mwyaf disglair i'w gweld gydag ysbienddrych wedi’i osod ar drybedd, a bydd y Lleuad Lawn ddisglair yn agos ar nosweithiau’r 10fed a'r 11eg o Ebrill.

Y blaned Sadwrn yw'r blaned olaf sydd i’w gweld, bydd hi’n codi o gwmpas 2:00am, yn isel yn awyr y de ddwyrain. Yn anffodus, mae’r blaned ar ei phwynt isaf yn y Sidydd - y band o’r awyr sy’n "cynnwys" y planedau - felly ni fydd yn uchel yn yr awyr eleni nac am nifer o flynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, bydd ysbienddrych yn dangos arwydd o’r system cylch a Titan, y disgleiriaf o deulu lloeren y blaned Sadwrn, er bod hi’n well cael cymorth telesgopig i werthfawrogi harddwch llawn y blaned.

Gan symud ymlaen at sêr gwib, y mis hwn mae gennym gawod resymol yn weithredol ac yn ystod amser macsima, mae’r Lleuad fwy neu lai allan o'r ffordd. Edrychwch tua hanner ffordd o orwel y Dwyrain i'r safle uwchben neu anterth o hanner nos ymlaen o gwmpas y 21ain, 22ain a’r 23ain Ebrill ac fe allech weld cawod Lyrid Ebrill. Mae'r gawod hon yn cynhyrchu tua 18 o sêr gwib yr awr, ond ar adegau mae’n ein synnu ni gyda "ffrwydradau" o weithgaredd estynedig. Nid ydych yn gwybod i sicrwydd faint yn union i'w disgwyl. Os oes gennych gamera digidol gyda lens ongl lydan, trïwch ychydig o ddadleniadau 30 eiliad ar raddfa ISO uchel a chymhareb-f mor gyflym â phosib. Gwyliwch am wlith yn ffurfio ar lens y camera dros amser ond daliwch ati, ac efallai y byddwch yn dal seren wib neu ddwy os ydych yn lwcus.

Y gwrthrych arall i edrych amdano os oes gennych ysbienddrych neu delesgop yw Comed 41/P Tuttle-Giacobini-Kresak. Er nad yw byth yn dod yn weladwy i’r llygaid noeth, bydd y gomed yn dal i fod yn weladwy gydag ysbienddrych yn ystod hanner cyntaf y mis, ond mae'n debyg y bydd angen telesgopau i’w gweld hi ar ôl hynny gan fod ei disgleirdeb yn lleihau yn gyflym. Mae cwpl o siartiau wedi’u darparu i ddangos symudiad y comedau ymhlith y cytserau yn ystod y mis.

Yn awyr y nos yn gyffredinol, mae Orïon y prif gytser sy’n arwyddbost yn y gaeaf nawr yn gostwng yn awyr y de orllewin, ac yn cael ei disodli yn y De gan y Llew. Er nad yw'r mwyaf amlwg o batrymau sêr i’w adnabod, mae ganddo’r "marc cwestiwn o chwith" wrth y pen, gyda'r seren ddisglair Regulus ar waelod y patrwm. Fel cymorth pellach i ddod o hyd i’r cytser hwn, bydd y Lleuad gerllaw ar 6ed Ebrill neu yn syml edrychwch uwchben am batrwm cyfarwydd yr Aradr. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod i ddefnyddio'r ddwy seren "cyfeiriol" i ddod o hyd i Seren y Pegwn, seren y Gogledd, ond os byddwch yn dilyn y sêr cyfeiriol yn ôl, i ffwrdd o Seren y Pegwn, yna bydd hynny hefyd yn eich arwain at y Llew. Oddi tan ac i'r chwith o’r Llew mae’r Forwyn, ac mae hi ar hyn o bryd yn croesawu’r blaned Iau.

Wel, dyna un neu ddau o bethau i godi blys arnoch chi a gyda hela mor dda, ac awyr glir fel erioed ...

MidWales Astronomy www.midwalesastronomy.cymru/