1af i’r 28ain: Cytser Yr Arth Fach, Yr Arth Fawr, Y Ddraig, Seffews ac eraill yn weledol. Hefyd yn weledol fydd seren y Pegwn (Seren y Gogledd neu Polaris). Mae Polaris 432.57 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd, a’r seren mwyaf disglair yng nghytser yr Arth Fach, hefyd mae seren Kochab yn weledol gyda phellter o 130.93 o flynyddoedd goleuni. (ffigwr i 4)
Ffigwr 1.
Ffigwr 2: Y Ddraig
Ffigwr 3: Seren Y Gogledd, Kochab, Yr Arth Fawr ( Yr Arad) a’r Arth Fach.
Ffigwr 4: Seffews (wedi ei enwi ar ôl Brenin Aethiopia o fytholeg Groegaidd)
1af i’r 28ain: Y De, Y Ci Bach, a’i seren Procyon, Y Ci Mawr a’i seren Siriws a chytser yr Efeilliaid, ychydig o’r cytser yn weledol (ffigyrau 5 i 8).
Ffigwr 5: Y Ci bach gyda Procyon, mae Procyon yn ymddangos fel un seren pan yn edrych arno o’r Ddaear, fodd bynnag mae’n seren ddwbl (dwy seren) sydd 11.46 o flynyddoedd golau i ffwrdd.
Ffigwr 6: Y Ci Mawr gyda’i seren Siriws. Mae Siriws 8.6 o flynyddoedd golau i ffwrdd ac yn gyfundrefn sren ddwbl. Mae’r gair Siriws yn golygu “tywynnol” neu “danbaid” yn y Groeg.
Ffigwr 7: Y Ci Bach, a’r Ci Mawr gyda Procyon a Sirius.
Ffigwr 8: Cytser yr Efeilliaid gyda’r sêr Pollux a Castor. Mae Pollux 34 o flynyddoedd golau i ffwrdd gyda phlaned yn cylchdroi. Mae Castor 51 o flynyddoedd golau i ffwrdd.
19eg: Cysylltiad y Lleuad a Mawrth ( ffigyrau 9/10) yn weledol 18:50 (ASG) uwch y De Orllewin gan symud tuag at y gorwel ac yn machlud am 01:15 yng nghytser y Tarw. Yn weledol i’r lygad noeth neu drwy ysbienddrych. Bydd yn cysylltiad yn digwydd pan mae planedau neu blaned a’r lleuad yn ymddangos yn andros o agos i’w gilydd yn yr awyr oherwydd eu bod mewn rhes gyda’r Ddaear un eu cylchdroau eu hunain. Bydd y Lleuad 398787 cilomedr o’r Ddaear, bydd Mawrth 246.4 cilomedr o’r Ddaear.
Ffigwr 9: Cysylltiad y Lleuad a Mawrth
Ffigwr 10: Lleuad a Mawrth mewn cysylltiad.
20fed: Cyhydnos Mawrth (ffigwr 11) yn dynodi’r diwrnod cyntaf o wanwyn i’r hemisffer Gogleddol. Bydd pob man ar y Ddaear yn cael oddeutu 12 awr o ddydd a nos. Y gair Equinox yn tarddu o’r Lladin yn golygu aequus (hafal) a nox (nos). Ar ddydd y cyhydnos bydd yr Haul yn codi o’r pwynt ar y gorwel sydd yn yn gorwedd yn union i’r Dwyrain, ac yn machlud islaw’r pwynt syd yn gorwedd yn union i’r Gorllewin.
28ain: Lleuad Llawn (ffigwr 12, Worm Moon)). Bydd yn digwydd yn agos i’r amser o’r mis lle bydd y Lleuad yn dynesu’n agos (352059 cilomedr) i’r Ddaear. Fel mae’r tymheredd yn cynhesu, mae mwydod yn ymddangos ac mae adar yn dechrau cael hyd i fwyd. Mae Lleuad y Mwydyn yn digwydd yr un mis a Chyhydnos y Gwanwyn sef yr 20fed o Fawrth.
Ffigwr 12: Lleuad llawn Mawrth.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Ffiseg Niwclear
Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.