Bydd y canllaw byr hwn yn eich helpu i ddechrau dysgu am awyr wych y nos. Ar unrhyw noson glir mae rhyfeddodau diddiwedd yn disgwyl amdanoch. Gallwch weld galaeth 2½ miliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd gyda'ch llygad noeth, a chyda 'sbienddrych gallwch weld craterau ar y Lleuad! Er gall dysgu am ryfeddod awyr y nos ymddangos yn dasg lethol, wrth ei chymryd gam wrth gam, gall eich chwilfrydedd am yr hyn sydd i fyny yno fod yn gam cyntaf o fwynhad cosmig am oes.
Cofiwch y dylai seryddiaeth amatur fod yn brofiad tawel ac yn hwyl. Cymerwch bleser mewn beth bynnag y gallwch ei weld â'r llygad noeth, eich ysbienddrych, neu delesgop. Po fwyaf o amser y byddwch yn edrych ac yn archwilio, y mwyaf a welwch, a’r mwyaf a welwch, y mwyaf y byddwch eisiau edrych! Cymerwch eich amser i ddysgu am gyfrinachau awyr y nos, ac ymhyfrydwch yn harddwch a dirgelwch ein bydysawd rhyfeddol.