1af: Y Lleuad ar ei chwarter olaf (ffigwr1). Yn weledol yn awyr y bore, tua 01:22 (Amser Haf Prydain), 3 awr 38 munud cyn yr Haul, ac yn codi i’r De Ddwyrain cyn pylu o’r golwg fel y mae’r wawr yn torri, tua 04:32. By d yn ymddangos yn hanner oleuedig. Bydd y Lleuad 392496 cilomedr o’r Ddaear.
Ffigwr 1.
17eg: Y Lleuad yn ei chwarter cyntaf (ffigwr 2). Daw yn weledol am 21:55 (Amser Haf Prydain) 22° uwch y gorwel i’r De Orllewin fel y mae hi’n nosi. Bydd wedyn yn gostwng tua’r gorwel gan fachlud 3 awr 16 munud wedi’r haul. By d y Lleuad 367847 cilomedr o’r Ddaear.
Ffigwr 2.
23ain/24ain: Lleuad lawn (“Buck Moon”, ffigwr 3). Yn weledol y rhan fwyaf o’r noson ac yn codi fel mae hi’n nosi ac yn machlud fel mae’r wawr yn torri. Mae lleuad lawn Gorffennaf yn cael ei alw’n “Buck Moon” gan mai dyma’r amser o’r flwyddyn y mae ceirw bwch yn dechrau egnio eu cyrn newydd. Ar y 23ain rhwng 20:35 a 04:06 bydd y Lleuad 100% yn llawn. Ar y 24ain rhwng 21:28 a 05:23 bydd yn 99% yn llawn. Ar 23ain bydd tua 382389 cilomedr o’r Ddaear, ar y 24ain bydd tua 372465 cilomedr o’r Ddaear. Bydd yn weledol yn nghytser yr Afr (ffigwr 4).
Ffigwr 3.
Ffigwr 4.
24ain: Cysylltiad y Lleuad a Sadwrn (ffigwr 5). Bydd yn weladwy tua 22:46, pan fydd yn ymddangos uwch y gorwel i’r De Ddwyrain. Bydd yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn yr awyr am 02:02 uwch y gorwel i’r De ond yn cael ei golli yn y wawr tua 05:03 uwch y gorwel i’r De Orllewin. Bydd y Lleuad tua 372199 cilomedr o’r Ddaear a bydd Sadwrn tua 1338 miliwn cilomedr o’r Ddaear.
Bydd wedi ei leoli yn nghytser yr Afr (ffigwr 4).
Ffigwr 5.
26ain: Cysylltiad y Lleuad a Iau (ffigwr 6). Yn weladwy tua 23:15 pan fydd uwchben y gorwel i’r De Ddwyrain. Yn cyrraed ei uchafbwynt am 03:12 uwch y gorwel i’r De ond yn cael ei golli yn y wawr tua 05:06 uwch y gorwel i’r De Orllewin. Bydd y Lleuad tua 382663 cilomedr o’r Ddaear a bydd Iau yn bellter o tua 613 miliwn cilomedr. Wedi ei leoli yng nghytser y Dyfrwr (ffigwr 7).
Ffigwr 6.
Ffiigwr 7.
28ain: Cawod sêr Piscis Austrinid (ffigwr 8). Yn weithredol o’r 15fed o Orffennaf hyd at y 10fed o Awst, gan gynhyrchu’r uchafbwynt o feteorau tua’r 28ain o Orffennaf. Yn weledol tua 00:38 bob nos, gyda’r pwynt pelydrol yn codi uwch y gorwel i’r Dwyrain. Bydd yn aros yn weithredol hyd nes daw y wawr. Wedi ei leoli yn nghytser Piscis Austrinus (ffigwr 9). Efallai bydd posib gweld 5 meteor bob awr, gyda chyflymder o tua 35 cilomedr yr eiliad.
Ffigwr 8.
Ffigwr 9.
30ain: Delta Deheuol (d) cawod sêr y Dyfrwr (ffigwr 10). Yn weithredol rhwng y 12fed o Orffennaf a’r 23ain o Awst gan gynhyrchu’r uchafbwynt mewn meteorau tua’r 30ain o Orffennaf. Bydd yn weledol o 22:46 bob nos tan y wawr. Corff cychwynnol yw’r gomed 96P/Machholz. Bydd posibilrwydd o weld 15 meteor bob awr, gyda pob un yn teithio 41 cilomedr yr eiliad.
Ffigwr 10.
30ain: a (Alpha) cawod sêr yr Afr (ffigwr 11), yn weithredol o’r 3ydd o Orffennaf hyd y 15fed o Awst, gyda’r uchafbwynt tua’r 30ain o Orffennaf. Bydd yn ymddangos yng nghytser yr Afr (ffigwr 12) a disgwylir cyrraedd ei uchafbwynt tua 07:00 (Amser Haf Prydain) ar y 30ain o Orffennaf. Felly, bydd yr arddangosfeydd gorau efallai i’w gweld cyn y wawr ar y 30ain o Orffennaf. Bydd tua 5 meteor bob awr. Bydd cyflymder y meteorau tua 23 cilomedr yr eiliad.
Ffigwr11.
Ffigwr 12.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr:
Ymasiad Niwclear
Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.