Awyr y Nos – Ionawr 2021

30.12.20

3ydd/4ydd: Uchafbwynt gweithgaredd cawod sêr y Cwadrantau (ffigwr 1,3). Byddent yn weithredol o’r 12fed o Ragfyr hyd at y 12fed o Ionawr. I’w gweld yng nghytser Bootes, a disgwylir iddynt dywyllu.

Ffigwr 1. Cawod sêr y Cwadrantau

Ffigwr 2. Y Cwadrantau

19eg: Gamma (g) - Cawod sêr yr Arth Fach (ffigwr 3,4,5). Yn weithredol o’r 15fed hyd y 25ain, ac yn creu uchafbwynt yn y meteorau tua’r 19eg. Yng nghytser yr Arth Fach. Bydd yn cyrraedd uchafbwynt tua 04:00 GMT.

Ffigwr 3

Ffigwr 4

Ffigwr 5

20fed: Bydd y Lleuad ar ei chwarter cyntaf (ffigwr 6). Yn weledol tua 17:05 (GMT) uwch gorwel y De Orllewin. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 18:16 uwch y gorwel Deheuol. Yn weledol tan tua 00:10, pan mae’n symud uwch y gorwel Gorllewinol. Yn ystod yr amser yma pan mae yn ei gyfnod gylchred misol, mae’n ymddangos bron yn union hanner oleuedig.

Ffigwr 6. Y lleuad yn ei chwarter cyntaf

21ain: Cysylltiad y Lleuad a Mawrth (ffigwr 7,8,9). Yn weledol yn yr hwyrnos, o tua 17:06 (GMT) uwch y gorwel De Ddwyreiniol. Yn cyrraedd y pwynt uchaf yn yr awyr tua 18:30 uwch y gorwel Deheuol. Yn weledol tan 00:55 pan maent yn syrthio yn is na 7° i’r gorwel Gorllewinol. Bydd y Lleuad yng nghytser Cetus a bydd Mawrth yng nghytser yr Hwrdd. Bydd Mawrth yn bellter o 163.5 miliwn cilomedr o’r Ddaear tra bydd y Lleuad 399428 cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 7. Cysylltiad y Lleuad â Mawrth

Ffigwr 8. Cytser Cetus a’r Hwrdd

Ffigwr 9: Cyswllt y Lleuad â Mawrth

28ain. Lleuad lawn (ffigwr 10), yn cyrraedd gwedd lawn. Yn ystod y cyfnod yma yn y gylchred fisol, mae’r Lleuad yn gorwedd bron yn union gyferbyn a’r Haul yn yr awyr, ac yn uchel uwchben y gorwel y rhan fwyaf o’r noson. Mae rhediad Lleuad lawn drwy’r flwyddyn weithiau yn cael enwau gan ddibynnu ar y tymhorau y maent ynddynt. Bydd un mis Ionawr yr ail yng Ngaeaf 2021, Lleuad y Blaidd. Dros y nosweithiau wedi’r 28ain bydd y Lleuad yn codi rhyw awr yn hwyrach bob dydd gan ddod yn fwy amlwg yn hwyrach yn y nos. O fewn ychydig ddyddiau, bydd ond yn weledol cyn y wawr ac yn gynnar yn y bore. Erbyn iddo gyrraedd ei chwarter olaf, wythnos wedi’r lleuad lawn, bydd yn codi tua hanner nos ac yn machlud tua chanol dydd. Pan fydd y Lleuad yn cyrraedd ei gyfnod llawn, bydd yng nghytser y Cranc, a bydd yn ymddangos uchaf yn yr hemisffer Gogleddol. Bydd tua 380000 cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 10. Lleuad Lawn (Lleuad y Blaidd)

Lleuad y Blaidd yn Ionawr, yng nghanol yr oerni ac eira dwfn canol gaeaf, byddai’r bleiddiaid yn udo’n llwglyd y tu allan i bentrefi’r Americanwyr brodorol ac felly dechreuodd y pentrefwyr i alw lleuad llawn Ionawr yn Lleuad y Blaidd.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi

Ffisegwr

Ymasiad Niwclear

Astroffiseg

7

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.