3ydd hyd y 12fed. Cawod sêr Cwadrantid gyda brig gweithgaredd oddeutu 3ydd/4ydd a gallant eu gweld yng nghytser Y Cowmon (ffigwr 1 & 2).
Mae ardal y wefr yn ambegynol (o hyd yn uwch na'r orwel). Mi fydd yn gweithredu trwy'r nos.
Mae'r adeg gorau i'w wylio ychydig cyn y wawr (09:00).
Cyn belled bod yr awyr yn hollol dywyll dylai 120 seren wib gael eu gweld pob awr ar 79º uwch yr orwel.
Asteroid 2003 EH1 sy'n gyfrifol am y gawod.
Ffigwr 1: Perf cawod sêr Cwadrantid.
Ffigwr 2: Cawod sêr Cwadrantid.
Ar y 10fed mi fydd eclips gogysgodol (ffigwr 3 & 4) yn pasio drwy gysgod y Ddaear rhwng oddeutu 17:08 a 21:12 GMT.
Mi fydd yn weledol yn awyr y Dwyrain, mi fydd y lleuad 24° uwch yr orwel gyda eclips ar ei fwyaf am 19:11 GMT
Ffigwr 3: Eclips Gogysgodol. Geometreg cysgod y Ddaear. O fewn gogysgod y Ddaear mae'r blaned yn gorchuddio ychydig o ardal cysgod yr Haul. Mae unrhyw ardal o wyneb y Lleuad sy'n pasio trwy'r gogysgod yn ymddangos yn dywyllach nag arfer gan bod y Ddaear yn rhwystro ychydig o olau'r haul. Nid yw ardaloedd yn y cysgod fodd bynnag yn derbyn unrhyw olau haul.
Mae'r gogysgod yn tywyllu ychydig ar wyneb y Lleuad gyda'r Lleuad yn dal i dderbyn ychydig o olau haul felly mae'n hawdd i'w fethu.
Ffigwr 4: Mi fydd orbit y Lleuad yn troelli 5 gradd yn gymharol ag orbit y Ddaear o gwmpas yr Haul.
O'r 15fed i'r 25ain mi allwch weld cawod sêr γ (gamma) Ursae Minorid Meteor (ffigwr 5 & 6), gyda gweithredoedd ar eu brig ar y 19eg am 22:00 GMT.
Yng nghytser Y Sosban Fach (Ursa Minor) gyda'r berf yn ambegynol sy'n golygu bydd y gawod yn weithredol trwy'r nos.
Mi fydd perf y gawod ar ei brig ar uchder o 74 gradd uwch yr orwel a gallwch weld hyd at 2 seren wib pob awr.
Ffigwr 5: Cawod sêr Wrsa Fach yng nghytser Wrsa Fach.
Ffigwr 6: Seren Wib Wrsa Fach.
Ar yr 28ain mi fydd y Lleuad a Gwener yn pasio'n agos (ffigwr 7.) Mi fyddan nhw'n weladwy o gwmpas 17:19 GMT fel mae'r cyfnos yn pylu 25° uwch y gorwel Dde Orllewinos ac yn machlud 3 awr a 43 munud ar ôl yr Haul.
Mi fydda nhw rhy bell arwahân i'w gweld trwy delesgop ond yn weledol i'r lygad noeth neu drwy sbienddrych.
Ffigwr 7: Dynesiad y Lleuad a Gwener.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.