5ed: Cawod sêr gwib Llyn Dôn (ffigwr 1), yn weithredol, 1af i’r 8fed, gyda’r uchafbwynt ar y 5ed. Yn weithredol drwy’r nos, gyda’r arddangosiad orau o gwmpas 21:00/23:00 yng nghytser Andromeda, yn ymylu ar Lys Dôn (ffigwr 2). Bydd y sêr gwib yn ymddangos ar gyflymder o tua 16.7 cilomedr yr eiliad.
Ffigwr 1.
Ffigwr 2.
8fed: Cawod sêr gwib yr Uncorn (ffigwr 3), Yn weithredol ar y 5ed i’r 20fed ac ar eu hanterth ar yr 8fed/9fed. Bydd yn pelydru o gytser yr Uncorn (ffigwr 4). Yn weledol 19:00 hyd 07:30, bydd y pwynt pelydrol uwch y gorwel yn y Gorllewin. Ddim i’w gamgymryd ag yr Uncorn (alffa) ar y 21ain o Dachwedd.
Ffigwr 3.
Ffigwr 4.
11eg: (Sigma) - Cawod sêr gwib y Ddyfrsarff (ffigwr 5) o’r 3ydd i’r 15fed, gyda’r uchafbwynt ar 11eg/12fed. Yng nghytser y Ddyfrsarff (ffigwr 6) ac yn weledol rhwng 21:00 a 07:30 bob nos. Cyflymder sêr gwib 58 cilomedr yr eiliad gyda thua 3 o sêr gwib bob awr.
Ffigwr 5.
Ffigwr 6.
13eg: Sêr gwib yr Efeilliaid (ffigwr 7) yn weledol rhwng 14eg a’r 17eg gyda’r uchafbwynt ar y 13eg/14eg. Cytser yr Efeilliaid (ffigwr 8). bydd y gawod yn weithredol yn ystod oriau o dywyllwch, gyda’r arddangosfa orau rhwng 01:00 a 02:00. Mae posib gweld tua 80 a 120 o sêr gwib bob awr.
Yn cychwyn o 3200 Phaethon (asteroid paladiwm (planed fechan), ffigwr 9). Meteorau'r Efeilliaid a’r Cwadrantau yw’r unig gawodydd sêr gwib nad ydynt yn deillio o gomed. Mae cyflymder y sêr gwib yn debygol o fod 25 cilomedr yr eiliad.
Ffigwr 7.
Ffigwr 8.
Ffigwr 9
15fed. Mae Cawod Sêr gwib Gwallt Bereinicid (ffigwr 10) yn weledol o’r 12fed i’r 23ain gyda’r rhan fwyaf o sêr gwib ar y 15fed/16eg, yng nghytser y Llew (ffigwr 11) ac yn weledol bob nos o 22:30 i 07:40. Cyflymder sêr gwib tua 65 cilomedr yr eiliad.
Ffigwr 10.
Ffigwr 11.
17eg: Cysylltiad y Lleuad ac Iau (ffigwr 12). Daw yn weledol tua 15:30 (GMT) uwch y De Orllewin. Yn weledol i’r llygad noeth neu drwy ysbienddrych os am gael gwell golwg. Bydd Iau 881.6 miliwn o gilomedrau o’r Ddaear, bydd y Lleuad 376888 cilomedr o’r Ddaear.
17eg: Cyswllt y Lleuad a Sadwrn (ffigwr 13). Yn weledol o 15:30 gyda’r Lleuad yng nghytser yr Afr (ffigwr 14 a 15)
Ffigwr 13
Ffigwr 14
Ffigwr 15: yn weledol gyda’r llygad noeth
19eg: Sêr gwib Rhagfyr y Llew Bach (ffigwr 16) yng nghytser y Llew Bach (ffigwr 17). Yn weithredol 5ed o Ragfyr 2020 i’r 4ydd o Chwefror 2021. Yn weledol 19:50 hyd at 07:40 bob nos. Uchafbwynt y sêr gwib ar 19eg.
Ffigwr 16
Ffigwr 17
21ain: Heulsaf Rhagfyr (ffigwr 18,19). Diwrnod byrraf 2020 yn hemisffer y Gogledd, diwrnod canol gaeaf.
22ain: Cawod sêr gwib Yr Arth Fach (ffigwr 20) 17eg i’r 26ain gyda’r uchafbwynt ar y 22ain/23ain. Bydd y pwynt pelydrol yng nghytser yr Arth Fach (ffigwr 21), a bydd y gawod yn weithredol drwy’r nos, gyda’r arddangosfa orau cyn y wawr. Mamgorff, comed 8P Tuttle.
Ffigwr 20
Ffigwr 21
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Mark R Smith FRAS FRi
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear Ffisegol
Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.