Seryddiaeth

Mae awyr dywyll anhygoel y Parciau Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd gwych drwy gydol y flwyddyn i wylio awyr y nos, i syllu ar y sêr, planedau a'r lleuad.

Ar noson glir, syllwch i fyny’n ddigon hir ar y sêr ac fe welwch chi sêr gwib neu hyd yn oed gomed. Mae yna rywbeth hudolus am seren wib wrth i’w befriad olaf gwblhau ei daith epig drwy’r bydysawd. Mae rhamant wrth wylio sêr gwib a pharchedig ofn wrth wylio comedau. Mae edrych i fyny at y rhyfeddodau hyn sy’n anelu am yr awyr, yn cysylltu’ch anturiaethau ar y ddaear â’r bydysawd a’i ysblander.

Mae cannoedd o gomedau sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hoes ymhlith planedau mewnol Cysawd yr Haul. Mae comedau yn gadael llwybrau o nwy a llwch y tu ôl iddynt. Gelwir y gronynnau llwch o faint tywod yn sêr gwib wrth iddynt dasgu i awyr denau atmosffer y Ddaear a llosgi. Wrth iddynt losgi maent yn gadael stribedi llachar o olau ar draws awyr y nos - a elwir yn sêr gwib.

Mae sêr gwib yn gyffredin iawn, ac wrth syllu i fyny ar awyr nos glir byddwch yn siŵr o weld llwybr byr o olau a adewir gan seren wib. Gellir gweld sêr gwib ar unrhyw adeg, ond yr amser gorau i chwilio amdanynt yw yn ystod cawodydd cyfnodol. Ar adegau penodol o'r flwyddyn wrth i’r ddaear fynd drwy gymylau o lwch gofod, bydd cawodydd sêr gwib anhygoel ac efallai y gwelir cymaint â 100 o sêr gwib mewn awr! Mae’r rhai mwyaf gweladwy yn digwydd ym mis Awst, Hydref a Rhagfyr. Fel petai’n arbennig ar gyfer Cymru, ceir cawod Draconid o sêr gwib yn yr Hydref – yn pelydru o geg danllyd cytser gogleddol Draco y Ddraig, yn llenwi awyr y nos gydag arddangosfa wych.
Mae tua 20 o brif gawodydd sêr gwib y flwyddyn, ac mae rhai ohonynt yn cynhyrchu cymaint â 50 o sêr gwib y funud. O bryd i'w gilydd, llenwir yr awyr gyda sêr gwib. Cysylltir y "stormydd sêr gwib" enwocaf â chawod Leonid, a welir bob blwyddyn rhwng 14 a 20 Tachwedd. Mae'r gawod wedi bod mor anhygoel yn y gorffennol fel ei bod yn edrych fel pefriad o eira yn syrthio!  

Roedd y comedau yn poeni’r hen bobl -  dywedwyd fod y pelenni tanllyd hyn yn dod ag anlwc, neu'n rhagweld trychineb. Mewn gwirionedd, mae comedau wedi eu ffurfio o rew ac maent mor fach a phell i ffwrdd fel na allwn eu gweld, hyd yn oed yn y telesgopau mwyaf. Ond gallwn eu gweld pan fyddant yn dod i mewn tuag at yr Haul ac yn ffurfio cynffon fflam unigryw o nwy a llwch. Dim ond ychydig o flynyddoedd y mae rhai comedau yn eu cymryd i fynd o gwmpas yr Haul. Mae eraill - fel comed Halley - yn cymryd llawer mwy o amser, tra bod rhai eraill yn ymddangos unwaith, yn diflannu’n ôl dros y dibyn galaethol a byth yn cael eu gweld eto.

Gweler y tudalennau Syllu ar y sêr am fwy o wybodaeth.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.