Teithiau Cerdded Gyda’r Hwyr ac yn y Nos

Dowch i gael eich temtio i’r tywyllwch gan belydrau’r lleuad a golau sêr, gwisgwch eich côt a mentro i’r cyfnos.

Mae llawer yn dweud bod rhywbeth unigryw a chyfriniol am gerdded yn ystod y nos, mae'r tawelwch sy'n disgyn yn ystod y nos yn gwbl wahanol i unrhyw dawelwch y gallwch fod yn ddigon ffodus i’w brofi yn ystod y dydd. Yn ddelfrydol, dewiswch noson serennog neu nos olau leuad heb ormod o orchudd cwmwl a gyda chyffyrddiad melfedaidd awyr y nos ar eich wyneb fe gewch eich cludo i fyd nosol gwych newydd.

Gwerthfawrogwch brydferthwch llawn a dirgelwch awyr y nos, trowch y goleuadau yn isel a gadewch i'ch synhwyrau eich tywys yn ystod eich taith gerdded yn y nos. Fel mae’ch llygaid yn addasu i'r tywyllwch ac wrth i chi ddefnyddio eich fflachlamp yn gynnil, defnyddiwch eich clustiau i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas, efallai na fydd y ffrwd coetirol ar eich map yn weladwy yn y tywyllwch, ond efallai y byddwch yn gallu ei chlywed yn byrlymu.

Ystyriwch beth yw’r lefel golau lleiaf ar gyfer goleuo eich taith gerdded. Bydd hyn yn dwysáu eich profiad 'o’r tywyllwch', ac yn gwella profiad pobl eraill yn eich grŵp. Bydd cadw’r goleuadau yn isel hefyd yn cael llai o effaith ar unrhyw bobl eraill allan yng nghefn gwlad yn ogystal â lleihau effaith eich llygredd golau ar natur. Mae golau o un ffynhonnell yn creu cysgodion, felly efallai bydd siapiau a all fod yn gyfarwydd yn y dydd yn troi'n ddirgelwch yn y tywyllwch. Gall tyllau, gwreiddiau coed a grisiau ar y llwybr gael eu cuddio, a gall arwynebau fod yn gamarweiniol. Er mwyn osgoi baglu ar dir garw, codwch eich traed ychydig yn uwch na’r arfer.

Y dyddiau hyn mae rhai fflachlampau pwerus iawn ar gael, fodd bynnag, gall defnyddio goleuadau llachar o'r fath amharu ar eich mwynhad o’r nos. Fodd bynnag, mae llawer o hwyl yn enwedig i blant i'w gael drwy ddefnyddio prif olau’r fflachlamp fel 'saber ysgafn' neu begwn i oleuo i mewn i'r nefoedd, neu i chwarae ‘dwi’n gweld efo fy llygad fach i’ yn y tywyllwch. Yn gyffredinol mae fflachlamp pen yn fwy defnyddiol nag un llaw, oherwydd maent yn rhad ac yn gadael eich dwylo'n rhydd ar gyfer gwneud pethau fel darllen map a bwyta cacen.

Dylech osgoi argyfyngau posibl trwy gynllunio’n dda. Gall pethau, ac mae pethau, yn edrych yn rhyfeddol o wahanol yn y tywyllwch felly cyn cychwyn, sicrhewch beth yw eich llwybr ar fap, ac os yn bosibl cerddwch rai rhannau yn ystod y dydd. Caniatewch rai munudau ychwanegol ar gyfer ymdrin â mapiau / cyfarwyddiadau. Gwisgwch ddillad ysgafn-liw, yn ddelfrydol rhywbeth amlwg i’w weld fel eich bod yn cael eich gweld ar unrhyw rannau o’r ffordd gan yrrwyr. Cerddwch gydag o leiaf un person arall os yn bosibl. Os ydych yn troi eich ffêr, o leiaf bydd yna rywun i'ch helpu i gerdded adref. Dywedwch wrth rywun ble rydych yn mynd a phryd byddwch yn ôl.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.