Cofiwch mae’r awyr yn ddeinamig ac yn newid drwy’r amser! Wrth i’r Ddaear fynd o amgylch yr Haul, bydd y sêr a welwch o un lleoliad penodol yn newid gydol y nos. Hefyd wrth i’r Ddaear symud i le gwahanol yn y gofod gydol y flwyddyn, bydd lleoliad y sêr hefyd yn newid.
Felly beth sydd i fyny yno?
Y lleuad yw’r ail wrthrych gweladwy mwyaf disglair yn yr awyr ar ôl yr Haul, a’r gwrthrych nefol agosaf at y Ddaear. Ar gyfartaledd o 238,855 milltir i ffwrdd ohonym, byddai'n cymryd tua 9 mlynedd i chi gerdded yno heb stopio. Mae cylchdro’r Lleuad yn cyd-fynd ag un y Ddaear, ac mae hyn yn golygu bod yr un ochr o’r lleuad bob amser yn wynebu'r Ddaear. Mae amlygrwydd y lleuad yn yr awyr a’i gylch rheolaidd o gyfnodau yn golygu fod y Lleuad wedi bod yn ddiwylliannol bwysig ers yr hen oesoedd. Gwelir dylanwad y lleuad mewn iaith, calendrau, celf a chwedloniaeth. Efallai nad yw nos olau leuad yn dda ar gyfer Syllu ar y sêr, ond mae’n gyfle rhagorol i wneud gweithgareddau megis cerdded neu redeg llwybrau, mae’n gefndir gwych i adrodd storïau, ac mae’n ysbrydoliaeth i ffotograffwyr nos.
Mae rhywbeth hollol syfrdanol am weld eclips ac mae’r ddynoliaeth wedi cael ei swyno ganddynt erioed. Gellir gweld eclips llawn o’r lleuad bob rhyw 2.5 mlynedd tra bod 2 neu 3 o eclipsau rhannol yn digwydd yn flynyddol. Yn ystod eclips llawn o’r lleuad, mae’r Haul, y Ddaear a'r Lleuad yn ffurfio llinell syth. Mae’r Ddaear yn rhwystro unrhyw olau haul uniongyrchol rhag cyrraedd y Lleuad. Mae’r Haul tu ôl i'r Ddaear, felly mae golau’r Haul yn bwrw cysgod y Ddaear ar y Lleuad ac mae'r cysgod hwn yn ei gwmpasu'n gyfan gan achosi eclips llawn. Yn 2015, roedd 'lleuadau gwaed' iasol yn ystod yr eclipsau. Cliciwch yma am ragfynegiadau amser a dyddiad yr eclips llawn nesaf o’r lleuad.
Mae cannoedd o gomedau sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hoes ymhlith planedau mewnol Cysawd yr Haul. Mae rhai comedau yn cael eu cymharu â "pheli eira budr", yn gymysgedd o lwch a iaoedd anweddol megis dŵr, carbon deuocsid, ac amonia. Mae comedau yn gadael llwybrau o nwy a llwch y tu ôl iddynt sy'n llosgi gan adael y gynffon gomed draddodiadol.
Mae comedau yn eithaf prin a thua un gomed y flwyddyn sy’n weladwy i'r llygad noeth; gelwir comedau llachar iawn yn “Gomedau Mawr”, a’r un enwocaf oedd Halley. Halley yw'r unig gomed y gellir ei gweld â’r llygad noeth a all ymddangos ddwywaith mewn oes ddynol. Ymddangosodd yr Halley olaf yn rhannau mewnol Cysawd yr Haul yn 1986, a bydd nesaf ger y ddaear yng nghanol 2061.
Felly, beth sydd tu ôl i hud sêr gwib? Wrth i ronynnau o lwch ddisgyn drwy atmosffer y Ddaear, maent yn cael eu gweld fel stribedi o olau ar draws yr awyr, dyma yw sêr gwib. Ar adegau penodol o'r flwyddyn wrth i’r ddaear fynd drwy gymylau o lwch gofod, bydd cawodydd sêr gwib anhygoel i'w gweld ac efallai y gwelir cymaint â 100 o sêr gwib mewn awr! Mae’r rhai mwyaf gweladwy yn digwydd ym mis Awst, Hydref a Rhagfyr. Fel petai’n arbennig ar gyfer Cymru, ceir cawod Draconid o sêr gwib yn yr Hydref – yn pelydru o geg danllyd cytser gogleddol Draco y Ddraig, yn llenwi awyr y nos gyda'i harddwch..
Mae gennym wyth planed yn ein Cysawd Haul, maent yn edrych fel sêr yn awyr y nos, a phump ohonynt yn ddigon llachar i'w gweld gyda'r llygad noeth. Y planedau amlwg i chwilio amdanynt yw Gwener - llachar iawn, yn enwedig ar ôl iddi dywyllu a chyn y wawr - a’r blaned Mawrth a ellir ei hadnabod oherwydd ei lliw coch. Mae mater bywyd ar blanedau eraill wedi swyno seryddwyr a lleygwyr fel ei gilydd, ac wrth i chi edrych i fyny, ystyriwch tybed a oes rhywun neu rywbeth yn edrych i lawr arnoch chi!
Peli o nwy yw sêr sy'n gollwng gwres a golau wrth iddynt fynd drwy broses ymasiad niwclear dwys. Yr Haul yw’r seren agosaf at y Ddaear, ac mae tua 93 miliwn o filltiroedd i ffwrdd. Mae’r nesaf, Proxima Centauri, tua 271,000 o weithiau ymhellach i ffwrdd. Mae llawer o wahanol fathau o sêr gyda phob math o enwau diddorol, a ‘Chorachod Coch’ yw’r enw a roddir i’r rhai mwyaf cyffredin yn y Llwybr Llaethog.
Gellir gweld Goleuni’r Gogledd, a elwir hefyd yn Aurora Borealis, o bob rhan o Gymru, er ei fod yn fwy tebygol i'w weld yn Eryri ac yn y gaeaf. Y tywyllaf yn y byd yw’r awyr, y gorau fydd y siawns o weld y ffenomen hon. Mae'r golau yn dibynnu ar weithgaredd solar sy'n amrywio ar gylch 11 mlynedd bras, gyda 2013 yn uchafbwynt diweddar; disgwylir y nesaf yn 2024.
Gan na ellir rhagweld pryd y gwelir Goleuni’r Gogledd, y ffordd orau i gael gwybod amdano yw cofrestru ar gyfer rhagolygon (1-3 diwrnod) neu rybuddion (1 awr).
Mae cytserau yn grwpiau o sêr yn yr awyr a ffurfia batrymau. Mae 88 o gytserau a gydnabyddir yn swyddogol. Lleolir 36 o’r rhain yn hemisffer gogleddol yr awyr tra mae’r 52 sy’n weddill yn hemisffer y de.
Drwy gydol hanes, taniwyd dychymyg y ddynoliaeth gan y sêr, ac mae'r patrymau a ffurfiant wedi cael eu disgrifio fel anifeiliaid, gwrthrychau a chymeriadau mytholegol. Tra’r ydych yng Nghymru, beth am fynd ar helfa draig a dod o hyd i gytser Draco gyda'i ben yn anadlu tân a chynffon hir yn nadreddu. Mae llawer o'r cytserau yn yr iaith a diwylliant Cymraeg gydag enwau unigryw sy'n eu cysylltu â thirwedd, mytholeg a diwylliant Cymru.
http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/namesobjects.html
Casgliad o sêr, nwy a llwch yw galaeth, sy'n cael eu rhwymo gyda’i gilydd gan ddisgyrchiant. Cred seryddwyr bod cannoedd o biliynau o alaethau yn y bydysawd; fodd bynnag, nid yw'r union nifer yn wybyddys
Yma ar y Ddaear rydym yn rhan o alaeth o’r enw’r Llwybr Llaethog. Mae’r Llwybr Llaethog yn alaeth droellog (ddim yn ddisg â diamedr). Mae ganddo graidd canolog llachar gyda dwysedd uchel o sêr, ac yna disg wastad yn ei amgylchynu. Mae fel record yn troi. Dechreua dwy fraich droellog y tu allan i’r craidd, gan droelli am allan fel olwyn pin ar ochrau allanol yr alaeth. Mesura’r Llwybr Llaethog oddeutu 100,000 i 120,000 o flynyddoedd goleuni. Credir ei fod yn cynnwys 200-400 biliwn o sêr (amcangyfrif gwyddonol gorau hyd yma).
.
Mae gweld yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (ISS) yn mynd heibio uwchben yn olygfa ysblennydd yn y nos neu yn y gwyll, fe'i gwelir yn wrthrych llachar cyflym iawn sy'n cymryd tua munud i groesi'r awyr. Yn hawdd ei weld gyda'r llygad noeth, mae’r Orsaf Ofod Rhyngwladol yn edrych fel awyren yn hedfan yn uchel iawn, a bydd fel arc o olau dwys. Mae ei hamseru rheolaidd yn golygu y gellir gwylio am yr olygfa hon ar adeg benodol; os yw’r amseru yn iawn ar Noswyl y Nadolig, hawdd credu eich bod yn gweld sled Siôn Corn!