yn anelu at ddatblygu a hyrwyddo gweithgareddau awyr dywyll ar draws Parciau Cenedlaethol Cymru. Er bod seryddiaeth yn un o’r gwyddorau hynaf, bydd datblygu syllu ar y sêr fel rhan o wyliau a phrofiad ymwelwyr yn golygu ei fod yn cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd. Bydd hyn yn rhoi ‘sbin’ neu ymagwedd newydd i’r syniad o ‘wyliau 24/7’ drwy roi profiadau unigryw sy’n seiliedig ar lonyddwch a phellenigrwydd Cymru. Mae hyn hefyd yn cynnig ffordd o ymestyn y tymor ymweld drwy fanteisio ar nosweithiau hir, clir y Gaeaf. Bydd y prosiect hwn yn datblygu Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri fel cyrchfannau awyr dywyll ar gyfer gweithgareddau gyda’r nos gan gynnwys syllu ar y sêr a gweithgareddau “Cyfnos-tan-wawr” megis teithiau cerdded yng ngolau’r lleuad a saffaris bywyd gwyllt nosol.
Bwriad y pecyn cymorth hwn yw helpu busnesau a masnachwyr sy’n gweithredu o fewn y tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleodd awyr dywyll sydd ar gael iddynt, ond hefyd i ddiogelu nodweddion hynod bwysig y Parciau. Mae hwn wedi cael ei ddatblygu gan TACP (UK) Ltd gyda mewnbwn gan Gareth Kiddie Associates, Girl & Boy Studio ac Anturus Media Collective. Mae'n eistedd ochr yn ochr â Chynllun Brandio a Marchnata sy’n esbonio ymhellach y broses a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r gweithgareddau hyn a sut maen nhw’n eistedd o fewn cynlluniau datblygu’r prosiect ar gyfer y dyfodol.