Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin, ac o Gymoedd y De i Ganolbarth Cymru, mae’r dirwedd hardd ac amrywiol hon yn cynnig llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU. Ar noson glir, gallwch brofi mawredd y Llwybr Llaethog wrth iddo greu bwa dros awyr y nos a hefyd gweld hyd at 3000 - mae hynny'n 2800 yn fwy na rhan fwyaf o ardaloedd y DU!
Dros y tair blynedd diwethaf ar ôl ennill y dynodiad mawreddog hwn, bu Bannau Brycheiniog yn gweithio'n galed gyda busnesau, trigolion lleol ac ymwelwyr i leihau llygredd golau a gwneud yr awyr hyd yn oed yn fwy arbennig nag o'r blaen. Mae’r warchodfa yn cynnig mynediad rhwydd, amrywiaeth wych o dirweddau, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt, gan wneud Bannau Brycheiniog yn lle perffaith i ddianc o fwrlwm y byd a phrofi gwir heddwch a llonyddwch.