Medi 2017

11.09.17

Awyr Dywyll Medi 2017

Mae'r siart awyr sydd ynghlwm yn dangos y sêr ar o gwmpas 9pm BST yng nghanol mis Medi.

I'r gorllewin de-orllewin, yng ngholau’r hwyrddydd, mae Iau yn parhau i fod yn weladwy am hyd at awr neu fwy ar ôl machlud haul. Y mis hwn yn realistig yw'r cyfle olaf i weld "Brenin y Planedau" yn y tymor arsyllu presennol, erbyn canol mis Hydref, bydd yr Haul yn rhy agos at y blaned i'w gweld am y misoedd nesaf. Tua'r 5ed a'r 6ed o Fedi, tua 3-4 gradd yn unig uwchben Spica yw’r blaned Iau, Spica yw’ seren ddisgleiriaf yn Virgo ac ar noson y 22ain, mae lleuad gilgant denau iawn yn ymuno â'r grŵp ar gyfer y rhai sy'n mwynhau her tynnu llun.

Mae Sadwrn yn parhau yn weladwy yn awyr isel y de-orllewin, y system gylch hyfryd sy'n rhoi “waw” ffactor tragwyddol ar ôl arsyllu ar y blaned. Yn debyg iawn i Iau, mae gan y blaned osgordd fawr o loerennau - tua 62 ar hyn o bryd - a gellir gweld Titan, y mwyaf a'r disgleiriaf o'r rhain, gyda binociwlars 7x50 neu 10x50 wedi'i osod ar drybedd. Edrychwch ar Sadwrn rhwng y dyddiadau canlynol pan fydd Titan yn mynd heibio i Sadwrn yn ystod gylchdro 16 diwrnod y blaned i weld a allwch weld Titan y pwynt golau "siâp seren". Y cyfleoedd gorau i gael cip ar Titan yw’r 3ydd - 5ed, 11eg - 13eg, 19eg - 21ain a’r 27ain - 29ain Medi. Pob hwyl ar yr arsyllu! Bydd Lleuad Gilgant yn eistedd ychydig raddau uwchlaw Sadwrn yn ystod noson y 26ain.

Gan droi at awyr y bore yn awr, ac mae yna bethau diddorol iawn yn digwydd. Mae gennym ddawns "planedol" yn digwydd, gyda Mercher, Gwener a Mawrth i gyd yn cymryd rhan.

Mae Gwener wedi bod yn pelydru yn awyr y bore yn y dwyrain ers tro bellach ond bydd yn araf ddechrau tynnu'n ôl tuag at yr Haul dros y misoedd nesaf. Yn ystod mis Medi, bydd y bore godwyr yn ein plith yn gweld Gwener yn nesáu at y ddwy blaned arall sydd i’w gweld yn awyr y bore, Mercher a Mawrth gyda'r Lleuad yn ymuno â'r aliniad hwn o'r 17eg i’r 19eg. Bydd gan y blaned Gwener ran fwy blaenllaw yn yr aliniad bore hwn mis nesaf, felly ym mis Medi, byddwn yn canolbwyntio ar y cyfarfyddiad Mercher - Mawrth.

Yn weladwy yn awyr y bore o ddechrau'r mis, bydd Mercher yn goleuo’n raddol wrth iddo agosáu at Regulus, y seren ddisgleiriaf yng nghytser y Llew, o gwmpas y 10fed. Yna bydd y blaned yn disgyn tuag at orwel y Dwyrain dros weddill y mis, gan ddod i gysylltiad agos â Mawrth - sy'n gwneud tric tebyg ond yn symud yn arafach - yn ystod fore’r 16eg a'r 17eg o Fedi. Mae Mercher yn gadael yr olygfa yn gyflym ac yna bydd y blaned Gwener yn dechrau nesau at y blaned Mawrth erbyn diwedd y mis. I wneud pethau hyd yn oed yn fwy diddorol, bydd Lleuad Gilgant denau yn pasio drwy'r un ardal o awyr dros yr un cyfnod. Gwnewch yn siŵr bod eich camera yn barod pawb!!!!

Yn anffodus, nid oes yna unrhyw gawodydd sêr gwib mawr i edrych allan amdanynt ym mis Medi, er y bydd yna sêr gwib di-gawod neu achlysurol i'w gweld bob amser.

Felly, hei lwc ac awyr glir i chi gyd,

Les Fry - Seryddiaeth Canolbarth Cymru

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.