Awyr Dywyll mis Gorffennaf 2017

01.07.17

Awyr Dywyll mis Gorffennaf 2017

Bydd Mercher yn galw heibio i ni yn yr awyr gyda’r nos y mis hwn, er na fydd yn mynd yn uchel iawn yn awyr y cyfnos hwyr ar unrhyw adeg. Bydd angen gorwel isel, da yn y Gogledd-Orllewin er mwyn dal “negesydd y Duwiau” er y bydd y “seren newydd” lachar yn y rhan honno o’r awyr yn weddol amlwg, yn fuan wedi’r Machlud. Am gryn dipyn o’r mis, bydd modd gweld Mercher am ryw awr wedi’r Machlud, ac un o’r cyfleoedd gorau i weld y blaned fydd y 25ain o Orffennaf, pan fydd Lleuad gilgant denau 7o i’r dde ohoni. Cyfle heriol ond diddorol am ffotograff.

Iau fydd y blaned amlycaf i’w gweld o hyd y mis yma, yn tywynnu’n braf yn yr awyr i’r De-Dde-Ddwyrain wedi’r machlud. Bydd “Brenin y Planedau” yn cael dau ymweliad gan y Lleuad y mis hwn - ar y 1af, bydd Lleuad sydd ychydig heibio’i chwarter cyntaf i’w weld ychydig i’r chwith o Iau, ac ar yr 28ain, bydd y Lleuad yn mynd lawer yn agosach, er y bydd ar ei agosaf pan fydd y Lleuad ac Iau ill dau yn isel yn yr awyr i’r De-Orllewin.

Bydd Sadwrn yn weladwy trwy nosau byrion Gorffennaf, er y bydd yn parhau yn isel yn yr awyr i ni’r arsyllwyr mwy gogleddol. Trueni am hynny, oherwydd bydd blynyddoedd lawer yn mynd heibio cyn i’r blaned symud yn araf allan o’i chartref presennol yng nghytserau sidyddol y De, gan ei gwneud yn fwy gweladwy i ni. Serch hynny, dyma’r blaned fwyaf cyfareddol. Bydd Lleuad bron yn llawn yn agos ati yn ystod nos y 6ed.

Y blaned olaf sydd i’w gweld ydy Gwener, fydd yn tywynnu yn yr awyr tua’r Dwyrain yn y cyfddydd. Bydd cyfle da i dynnu lluniau – os bydd y tywydd yn caniatáu – ar foreau’r 20fed a’r 21ain o Orffennaf, pan fydd y Lleuad gerllaw.

Fel yn y mis diwethaf, bydd cyfle o hyd i weld ac i dynnu lluniau o arddangosfa o gymylau nos. I gael y cyfle gorau i weld arddangosfa, edrychwch rhyw 70-90 munud ar ôl y Machlud neu cyn y Wawr a chanfod gorwel isel, da tua’r Gogledd-Orllewin neu’r Gogledd-Ddwyrain. Mae arddangosfeydd wedi eu cofnodi’r “tymor” hwn - y gorau ohonynt o gwmpas yr 16eg o Fehefin, gydag adroddiadau’n dod o fannau ledled Lloegr, rhai ohonynt cyn belled i’r de â Swydd Bedford. Cadwch eich llygaid ar agor, efallai y byddwch chi’n lwcus.

I droi at y sêr gwib, does dim cawodydd sylweddol yn eu hanterth y mis yma, er y bydd un o’r cawodydd enwocaf a mwyaf cynhyrchiol, y Perseids, yn dechrau dod yn weithredol yn ystod wythnos olaf Gorffennaf wrth i’r Ddaear ddechrau ar ei thaith trwy’r deunydd sydd wedi ei adael yn y gofod gan fam-gomed y cawodydd. Mae’r Perseids i’w gweld ar eu gorau tua’r Dwyrain yn ystod yr oriau rhwng Hanner Nos a’r Wawr, a byddant ar eu mwyaf y mis nesaf.

Gan ddymuno awyr glir i chi i gyd,

Les Fry  - Seryddiaeth Canolbarth Cymru.

Saturn is visible all through the short July night, although continues to be at a low altitude for us more northern observers. This is a shame, since it will be several years until the planet slowly draws out of the Southern zodiacal constellations where it currently resides and thence improving it’s visibility. It still remains however, the Planet with the “wow” factor. An almost Full Moon will be close by on the night of the 6th.

The final visible Planet on show is Venus, shining in the Easterly morning twilight skies. A fine photo opportunity exists – weather permitting – on the mornings of 20th and 21st July when the Moon lies close by.

As with last month, there still exists a chance to see and photograph a noctilucent cloud display. Your best chance at catching a display is by looking some 70-90 mins after Sunset or before Sunrise and finding a good, low NW or NE horizon. Displays have already been reported this “season”, the best being around the 16th June with reports received from all across England, some as far south as Bedfordshire. Keep your eyes peeled, you just never know your luck.

On the meteor front, there are no major showers at their maximum this month, although one of the more famous and productive showers, the Perseids, start to become active in the last week of July as the Earth begins it’s passage through the material laid down in space by the showers parent cometary body. The Perseids are best seen to the East in the hours from Midnight through to Sunrise, with the maximum occuring next month.

Wishing you all clear skies,

Les Fry  -   Mid Wales Astronomy.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.